Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

S^arlMU &enattatol> RITTF. XTV. MEDI, 1835. CYMDEITHAS GENADAWL LLUNDAIN. ¥ SLẂ03E (ùmmABAWl, Y Weddw dlawd yn bwrw eî dwy hatllng i'r Drysorfa—yn cacl ei ohanmol gan cin Harglwydd. Matt. xii. 41—44. Pan oedd Joas yn frenin Judah, yr oedd Teml Dduw yn Jerusalem, yr hon a gawsai ei hir esgeuluso a'i halogi, yn sefyll mewn angen o adgyweiriad trwy- adl; ac i ddwyn y draul o hyn, gorchymynodd y brenin i'r offeiriaid ymweled â holl ddinasoedd Judah, a gwneuthur casgliadau yn mhlith y bobl. Ond, trwy ryw foddion a'u gilydd, ni lwyddodd y peth ; ni chasglwyd digon o arian, ac nid adgyweiriwyd y deml. Y brenin, yr hwn oeid wedi cyfìawn anfodd- loni, a ymosododd ar ddyfais arall. Wrth ei orchymyn ef, Jehoiada yr offeir- iad a gymmerth gist, ac a dylloäd dwll yn ei chaead, ac a'i gosododd hi o'r tu dehau i'r allor, ffordd y deuai un i mewn i dy yr Arghoydd. Llwyddodd y ddyfais hon. Yr holl dywysogion a'r hoìl hobl a lawenychasant, ac a ddygas- ant, ac a fwriasant i'r gist. Felly y gionaethant o ddydd i ddydd, a chasglas- ant arian lawer. A bu, pan welsant fod llaiver o arian, ddyfod o ysgrifenydd y hrenin, a swyddog yr arch-offeiriad, a thywallt y gist, a'i chymmeryd hi, a'i dwyn drachefn i'w lle ei hun. A'r brenin Jehoiada a'i rhoddodd i'r rhai oedd yn gioeithio gwasanaelh ty yr Arglwydd.—Gwel 2 Bren. xii. ac 2 Cron. xxiv. Mae yn ymdangos i'r drefn lwyddiannus hon o gasglu offrymau gwirfodd dynion duwiol, y rhai a fynych gyrchent i dy yr Arglwydd, barâu yn mhlith