Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T MIS. CYF. 2. CHWEFROE 1, 1894. EHIF 4. HYFFOEDDIA BLENTYN YN MHEN EI FFOEDD. " Hyfforddia blentyn yn nihen ei ffordì; a phan heneiddio nid ymedy â hi." DlABHEBION XXII. 6. GAN JOHN JONES, TALSARN.* J MAE amryw ystyron i'r gair plentyn yn yr Ysgrythyrau. Gelwir Joseph yn blentyn pan oedd tua deunaw oed, a Benjamin, er ei íbd tua deg-ar-hugain. " A phlentyn a fydd marw yn ŵr can'mlwydd." 'Nià ydyw y gair i'w gyfyngu fel y gwneir genym ni at ddyddiau mebyd. Nid ydyw y gorchymyn hwn, gan hyny, yn caethiwo yr addysg hon i'r plentyn yn unig, gan ei chadw oddiwrth y rhai mewn oed. Gorchymynir ni í rybuddio ein gilydd, addysgu ein gilydd, adeiladn ein gilydd, " Oherwydd paham cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch bob un eich gilydd, megys yr ydych yn gwneuthur." Gorchymynir ni " mewn addfwynder i ddysgu y rhai gostyngedig; i edrych a roddo Duw iddynt hwy ryw amser edifeir- wch i gydnabod y gwirionedd." Dylai pob un lefaru wrth ei gymydog am Dduw, a dylai pob Cristion fod fel canwyll yn goleuo i bawb yn y tŷ„, yn y gymydogaeth, ac yn y wlad; ac fei halen yn gwasgar egwyddorioB hardd yr Efengyl i bob man adnabyddus iddo. Dylai y saint ymhyfrydu mewn addysgu pechaduriaid, a phawb y caffont gyfìe arnynt, yn ffordá Duw. Ond plentyn yn fwyaf neillduol, yn benaf, plentyn yn bennodoL "Hyfforddía blentyn yn mhen ei ffordd; a phan heneiddio nid ymedy â hi." * Oddiwrth lawysgrif a gyílwynwyd i ni gan ei ferch, Mrs. John Davies. Llaw- ysgrif faith, fanwl a man ryfeddol: yn dangos yn amlwg iawn pa mor fawr oedd Hafur y pregethwr enwog yn ngweinidogaeth y Gair. Ac nid ydyw y bregeth fe* yr argreffir hi ond dangosiad pur anmherffaith o hyn. Ymdrechwyd hyd yr oedd yn bosibl i wneyd copi teg.