Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SWYDDOGOL Uwch Deml Annibynol Urdd Y Temlwyr Da Tn Nghymra. EHIF 5 O'R GYP. NEWYDD. RHIF. 27 O'R HEN GYF. MAI 1, 1875. [Pris Ceiniog. ADRODDIAD YR UWCH DEILWNG BRIF DEMLYDD. AT SWYDDOGION AC AELODAU UWCH DEML CYMRU, YMGYNULLEDIG YN EI HEISTEDDIAD BLYNYDDOL YN ABERYSTWYTH, EBEILL 6ed, 1875. Gydswyddogion, Frodyr, a Chwiorydd,—Yn ol ein Cyfansoddiad, yn gystal ag arferiad swyddogion cyffelyb mewn cylchoedd eraill, mae yn ddyledswydd arnaf, ar derfyn tymor fy ngwasanaeth, i gyflwyno adroddiad cyf- lawn o'm gweithrediadau. Ac er nad yw y gorchwyl hwn o'r fath hawddaf, mae yn llawer hawddach na ffurfio dirnadaeth am faint ac arsawdd y gwaith ymlaen llaw. Hwyrach y dylwn wneyd esgusawd am beidio cyd- ymffurfio â phenderfyniad yr Uwch Deml yn Nghaernarfon trwy argraffu fy adroddiad ymlaen llaw. Fy unig reswm dros gymeryd hyn o ryddid ydoedd sefyìlfa ein cronfa, yr hon, oherwydd y rhaniad a rhesymau eraill, nis goddef yr un draul y gellir ei hebgor. Yr oedd presenoldeb ein brodyr Seisnig yn eíîeithio i raddau ar ein penderfyniadau, ac y mae eu hymadawiad yn newid amgylchiadau ac angenrheidiau. Pan nas gellir yn fanteisiol gario allan lythyren penderfyniad, nid oes dim gwell nag amcanu at weithio allan ei ysbryd. Yr ydys yn aml yn pasio pender- fyniadau mewn brys o'r fath na byddai yn fuddiol i'r Urdd eu dwyn i weithrediad. SEFYLLFA YR 'URDD FLWYDDYN YN OL. Pan ymgymerais â'r swydd hon yr oedd genyf lawer o bethau i'w dysgu—rhai ar unwaith, ac eraill yn raddol, a chefais deimlo yn fuan fod y sefyllfa yn wir bwysig. Yr oeddwn yn deall fod yr Urdd mewn cyflwr difrifol cyn ymgymeryd â'n* gwaith, ac ystyriaeth o hyny, i raddau pell, a'm tueddodd i ganiatau dwyn fy enw gerbron felym- geisydd, ac nid awydd am swydd nac ysfa am anrhydedd. Tybiwn y gallwn fod o ryw wasanaeth er cadw meddiant o'r tir mawr oedd ein Hurdd eisoes wedi ei feddianu. Ond rhaid i mi addef, beth bynag oedd fy ofnau am gyflwr yr Urdd 'cyn dechreu ar y gwaith, fod yçhydig wythnosau wedi dysgu i mi fod pethau yn llawer mwy digalon nag yr oeddwn wedi dychymygu. ^ Yr oedd y cwynion a ddeuent i'r swyddfa oddiv/rth gyfrinfaoedd gweiniaid a themlau eyeglyd yn poeni fy enaid, \ ac archolli fy nghalon. Yr oeddwn yn awyddus am fabwysiadu rhyw fesurau effeithiol yn ddioed er atal y gwrthweithiad grymus a deimlwn mewn gwahanol gyfeiriadau, Gelwais sylw y Pwyllgor Gweithiol at hyn y cyfle cyntaf, a'r un modd yr ail, ac at benderfyniad yr Uwch Deml yn Nghaernarfon mewn per- thynas i ddanfon darlithwyr a dysgawdwyr i ymweled â'r temlau. Ond gan fod sefydliad yr Uwch Deml Seisnig yn agos tybient mai gwell oedi nes gweled hyny drosodd. Oherwydd anhawsder i gael brodyr cymwys yn barod i gymeryd swyddau aeth yn agos i dri mis heibio*"cyn cael cyfarfod o'r Pwyllgor Gweithiol Avedi ei lenwi i fyny yn briodol. Gosodais yr un mater gerbron y Pwyllgor y tro hwn eto,1! pan gyfarfuwyd yn Aberystwyth, Tachwedd 4ydd, a daethant i'r penderfyniad nad osdd ein sefyllfa arianol yn caniatau anfon allan ddirprwyaethau, a dych- welyd 331 y cant o'r dreth i'r dosbarthiadau, ac nad oedd dim gwell i'w wneyd nag i mi barhau i anerch cyfarfodydd cyhoeddus hyd y medrwn. Fel hyn yr oeddwn mewn safle wir gyfyng, ac er edrych o'm hamgylch nid oedd gynorthwywr. Deuai ceisiadau i mewn braidd bob dydd am i mi fyned i areithio o blaid yr Urdd, ac yr oedd gan bob cyfrinfa resymau cryfìon dros ei chais. Yr oedd golwg wywedig iawn ar gyfrinfa mewn un Ue, anffyddlon- deb swyddogion mewn lle arall, oerfelgarwch y prif ddyn- ion fan yma, gwrthwynebiad swyddogioneglwysigfan acw ; yr oedd tipyn o adfywiad mewn un man, ac angen cadw y gwresi fyny,trayr oedd marwolaethynhylldremiofanaralî, ac angen cyffroad dioed, rhag i'r wreichionen ddiweddaf ddiffoddi. Yr oedd Dosbarth Deml yma, ac arddangosiad mawr acw, a disgwyliai pawb i'r Uwch Demlydd fod yn bresenol, er nas gallasai, amgen marwolddyn arall, fod mewn ychwaneg nag un man ar y tro. Yr oedd yn an- mhosibl i mi wybod i ddim tebyg i sicrwydd beth oedâ hawliau cymharol gwahanolleoedd. Ofnwn wrthod unrhyw gais os gallwn rywfodd gydsynio, rhag i'r Urdd ddioddef oddiwrth y gwrthodiad. Tybiwn y gallasai fod tynged y deml, fel y dywedid yn aml, yn ymddibynu ar weithrediad buan, neu y buasaify ngwrthodiad yn oeri aelodau ffydd- lawn, ac yn tarfu rhai gweiniaid a chroea-denets. Ac felly, wrth geisio cynorthwyo pawb, nid oedd genyf hamdden i gynorthwyo fy hun, na neb braidd ond Teml- yddiaeth.