Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Wq Stgẁgsgŵ g §tart. CALEB MOEEIS, LLUNDAIN. ^*$ YMEU biau yr anrhydedd o fod yn fagwrfan (TVS) i'r enwog Caleb Morris—dyn sydd a'i eow ^**^ yn household word mewn llawer teulu yn Nghymru a Lloegr, ac y pery ei goffadwriaeth am oesoedd lawer. Granwyd efynl800, yn Parcyd, wrth droed Foel Trigarn, yn mhlwyf yr Eglwys- wen, Sir Benfro. Enwau ei rieni oeddynt Stephen a Mary Morris,* y rhai oeddynt mewn amgylch- iadau cysurus. Crydd oedd Stephen Morris wrth ei alwedigaeth, ac i'r alwedigaeth hono ybwriadai ei fab Caleb. Yrnddengys fod y tad yn ddyn o alluoedd cryfion, ond lieb fanteision dysgeidiaeth. Hynodid Caleb Morris pan yn blentyn gan awydd i ddarllen llyfrau, ac yr oedd yn hynod o ddefosiynol ei feddwl. Nid oedd nemawr o lyfrau o hyd iddo heblaw y Bibl, Esboniad Burhitt, a Taith y Pererin. Diau fod hyn yn cyfrif am ogwydd naturiol ei feddwi at bregethu, yn lle as- tudio y gyfraith (fel y buwyd yn meddwl iddo wneuthur wrth weled ei alluoedd dysgu anghyff- redin,) yn nghyd a'r ffaith ei fod yn wr mor gadarn yn yr Ysgrythyrau. Man hoff ganddo yn fachgenyn i ddal cymundeb a Duw mewn gweddi, oedd mynwent hen gapel Penygroes; cyrchai i'r * Tr oedd i Stephen a Marj Morris fab arall o'r enw Jacob, bu farw 711 1843: a dwr ferch, Martha mam y Parch. Caleb Guion, Milford a fu farw ja 1871, a Hannah yr hou eydd rn f jw eto.