Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IEUENCTYD CYMR Cyfrol I. EBRILL, 1899. Rhif 4. AT EIN GOHEBWYR A'R CYHOEDD. /. Archebion a Thaliadau i Mr. G. Griffiths, 2, Ynyslwyd Street, Aberdar. 2. Gofala Mr. William jfohn Evans, Commercial Street, am y Gerddoriaeth. 3. Pob peth arall i'r Gol. 4. Yn Eisian: Hanesion Byr- ion am Bersonau, &>c, agwersi er lles oddiwrthynt. 5. Ymddengys y Feirniadaeth ar Bregethy Parch. Sam Jonesyn y nesaf. .;■■■ TY.RED Â GWEL» Druain o'r Esgobion ! Y cam cyntaf a fuasai y cam goreu iddynt i adael Ty'r Arglwyddi yn wir ! Ar noson yn Chwefror- diweddaf, yn y Ty Cyffredin, bu siarad brwd a barnol ar eu haelodaeth yn mhlith yr Arglwyddi yn y Senedd. Mr. Herbert Lewis ydoedd arweinydd yr ymosodiad arnynt, a gwnaeth ei waith yn lew fel Cymro hefyd. Dadleuid yn erbyn iddynt i fod yn Nhy'r Arglwyddi am nad oedd hyny yn gyson a'r Eglwys Apostolaidd, ac am ei fod yn meithrin fhagfarn ac yn achlysur i anghydraddoldeb yn y wladwriaeth, ac ain ei fo i yn erbyn ysbrydolrwydd crefydd, ac am ei fod yn rhwystr i'r Esgobion i wneud eu gwaith yn yr eglwysi yn nglyn a Duwinyddiaeth, defosiwn, a chrefydd yr Eglwysi. Awgrymai rhai mai nid cael yr Esgobion o Dy'r Arglwyddi a fuasai y cam doethaf; ond mae cael goreugwyr o blith Ymneillduwyr atynt yno, megys Parker, Clifford, tíughes, &c. Priodol y dywedodd un o'r siaradwyr am hyn, y bu- ^sai yr Arglwyddi yn debyg o fydoli y Duwinyddion fel oeddynt eis- °es wedi bydoli yr Esgobion,