Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

61 DETHOLION YSGRYTHYEOL. Rhif 8. Ceidwad i'r Byd. " Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i'r byd i ddamnio y byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef." Ioan iii. 16, 17. tYWJSDiB, mai dyma y testyn cyntaf a gymerai y cen- adwr enwog John Williams yn mhob maes newydd o lafur gweinidogaethol. Á pha destyn gweÍL a allasai ei ddewis, fel gwas i'r hwn a " ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid ?" A pha destyn mwy teilwng o'n sylw ninau ? Ar yr hyn y mae " angylion yn chwe- nychu edrych." A pha fater mor nerthoí ei ddylanwad i'n henill i " garu yr hwn yn gyntaf a'n carodd ni ?" Boed i ni edrych yn barchus arno. Dyma y rhodd: " Ei nnig-anedig Fab." Yr uwchaf a'r goraf o roddion Duw. Mae yn bosibl mesur, a phwyso, a phrisio, pob bod a phob byd; 'ie, y cydfyd ei hunan mewn ffordd gymharol a chyffredinol. Ond dyma un sydd â'i fawredd yn anchwiliadwy: '' Canys wrth bwy o'r angylion y dywedodd efe nn amser, Fy Mab ydwyt ti ?" " A thrachefn, pan yn dwyn y cyntaf-anedig i'r byd, y mae yn dywedyd, Ac addoled holl angylion Duw ef." Gwel ddesgrifìad ardderchog ohono yn Hebreaid i. Pe na buasai yn ddim ond dyn, gallasai roddi rhoddion uwch a gwell; ac os felly, paham y rhoddir cymaint o bwys ar roddiad y Mab hwn ? Mae y pwys mawr a pharhaus a roddir ar y rhodd hon yn y Beibl yn mell- âithio Sosiniaeth fel cyfundraeth annheilwng o Gristion- Ehodd cariad ydyw: " Eelly y carodd Duw y byd." O fynwes cariad y daeth—deheiìlaw cariad a'i rhoes. Nid oedd genym hawl iddo ar unrhyw dir. Nis gallasai un- "rhyw allu allanol i'r Duwdod ei orfodi i'w rhoi. Cariad hunangynhyrfiol, pur, a thragwyddol oedd y ffynon o ba un y tarddodd. Bhodd cariad Dwyfol ydyw: " Eelly y carodd Duw y byd." Nid cariad angylaidd—nid eariad bod meidrol a therfynol, ond cariad Duw ydyw; felly yn anfeidrol ac annherfynol».fel ei natur fawr ei hun. *' Duw cariad yw." » Ebeill, 1869.