Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ehdí. 7.] GOftPHENAF, 1879. [Cyf. xxxn. ENWOGION. VII.—ESGOB BÜTLER. j'N y flwyddyn 1692, yn nhref feehan ond prydferth Wantage, swydd Berks, trigai masnachydd parchus o'r enw Thomas Butler. Presbyteriad selog ydoedd y gwr da hwn; ac yr ydoedd mor eiddigus dros _^~_ - ffydd ei dadau yn yr efengyl ag ydoedd o ymrodd- gar a dyfal a gofalus gyda'i fasnach ; fel, rhwng y naill a'r llall, yr oedd Tbomas Butler yn ddinesydd parchus, yn grefyddwr dilychwin, ae yn siopwr Üwyddianus. Iddo ef y ganwyd, yn y flwyddyn a enwyd, fab, yr hwn a fedyddiwyd yn Joseph, a'r hwn a ddaeth wedi hyny mor hynod ac adnabyddus trwy yr holl fyd Cristionogol yn Europ fel Esgob Bütler, awdwr anfarwol yr "Analogy of Religion," y gwaith dyfnaf a mwyaf terfynol ac anatebadwy o'r fath, fel amddiflyniad i Ddatguddiad Dwyfol ac i Gristionogaeth ar a welodd y byd erioed.