Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T WINLLAN Bhif. 6.] MEHEFIN, 188S. [Cyf XLI. SYR ROBERT PEEL. 'AB oedd y gwleidyddwr anfarwol y maeeiddarlun uchod i Syr Robert Peel, y barwnig cyntaf, yr hwn a lwyddodd yn ddirfawr fel nyddwr cotwm {cotton spinner), masnach a gynyddodd ._________ yn ddirfawr mewn canlyniad i ddyf ais lwydd- ianus Arkwright. Gwnaeth y Syr Robert Peel cyntaf gyfoeth mawr, prynodd ystadiau mewn gwahanol barthau o'r wlad, a daeth yn Aelod Seneddol dros Tamworth am lawer o flynydd- oedd. Ganwyd gwrthddrych ein dai'lun yn Bury, Swydd Lancaster, Chwefror 5ed, 1788. Addysgwyd ef yn Harrow a Rhydychain. Yr oedd ei gwrs athrofaol yn ddysglaer a llwyddianus nodedig. Ar ol gadael y prifysgolion, a chael y mwynhad a'r rbagor- fraint o deithio ar y Oyfandir, dechreuodd Syr Robei-t ar ei fywyd cyhoeddus trwy fyned i'r Senedd dros Cashel, lle y dechreuodd ar unwaith ar fusnes mawr ei fywyd, a hyny o ddifrif.