Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sí ANIFEILIAID Y BEIBL. V.—YR YCH. Anifail eithaf adnabyddus ydyw yr ych. Ych yn briodol y gelwir y gwryw o'r anifeiliaid corniog o rywogaeth y fuwch, pan yn ei gyfiawn oed. Bustach y gelwir un a fyddo ieuengach. Yr ydym ni, yn y wlad hon, yn arfer siarad am ac ystyried yr ych yn wahanol iawn i fel yr ystyrid ef yn ngwledydd y dwyrain ; ac y mae yn anhawdd i ni ddeall yn iawn y pwysigrwydd oedü a sydd yn nghlyn â'r anifail hwn heb i ni gofìo ei fod i4r dwyreinwyr yn un tra gẃerthf awr a def nyddiol. Y mae yr ych yn cael ei grybwyll yn aml iawn yn yr ysgrythyrau ; yn y rhan fwyaf o'r engreifftiati y mae y cyfeiriad ato yn dra dyddoroí ac addysgiadol, ac yn yr oll o honynt yr ydym yn rhwym o gael ryw awgrymiadau addysgiadol yn ei gylch, ond i ni dalu ychydig ystyriaeth i'r adnod neu yr adnodau Ûe y sonir am dano. Gadewch i ni wneyd ychydig sylwadau cyffredinol ac addysgiadol am dano, heb fod yn fanwl a berniadoliawn. Arferid ac arferir yr ych yn y dwyrain i aredig y tir, ac i gludo ; ac fel y cyfryw y mae yn dra chyfaddas. Anhawdd iawn ei drin ydyw cyn iddo ymgynefino ä'r iau; ond wedi hyny, efe a gyfiawna ei waith yn ddyfal a dirwygnach, gan dderbyn cernodiau a bygythion ei yrwr yn amyneddgar. Y crybwylliad cyntaf o bwys a wneir o'r ych ydyw hwnw yn Ex- odus xx. 17, sef yn y ddegfed gorchymyn, lle y crybwylHr ef yn mfclifch f Mai, 1875.