Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T WINLLAN. Rhif. 4.] EBRILL, 1887. [Cyí. XL. THOMAS DE QUINOEY. JYMA ddarlnn o un o'r ysgrifenwyr rhyddieithol godidocaf yn yr iaith Saesoneg a fagodd Lloegr erioed. Mab ydoedd De Qaincey i farsiandwr yn __. Manchester; a ganed ef yn Greenhey, Awst 15,1785. Cafodd ei addysg foreubl yn Bath, a Manchester; ond bu o 1803 hyd 1808 yn efrydu yn Rhydychain. O hyny allau gwnaeth ei gartref yn benaf mewn bwthwn tlws yn Erasmere, gwlad y Llyniau, lle y daeth yn gydnabyddus iawn a Wordsworth, Coleridge, Southey, &c, ac oddiyno efe a ysgrifenai i brif gyhoedcüadau Llundain. Yn ystod yr adeg yr ydym wedi ei nodi daeth De Quincey yn gaeth i ddylanwad opium; ac yn fuan efe oedd un o'r opium eatera mwyaf yn y wlad. Ar y dechreu arferid opium ganddo i leddfu poenau cyffredinol; ond ildiodd yn raddol i'w ddylanwadau, a daeth iarfer cymeryd gymaint ag wyth mil o ddyferwn o hono yn y dydil. Am yr hyn a ddyoddefodd