Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§AB yr Arth yn greadur hollol adnabyddus i'n darllenwyr. Gwelsant eagraffau ohonynt yn fynych mewn milfaoedd (shows), ac ar hyd heolydd mân-drefydd y wlad. Mae gwa- hanol deuluoedd o'r anifail yn bod; megys Arth cyffredin neu lwyd-ddu Ewrop; Arth du America; Arth y Pegynau, neu yr Arth gwyn; yr Arth Syriaidd, neu Arth y Beibl, íel y bernir yn gy- flredin; yn nghydag ychydig o amrywiaethau ereill. Oreadur mawr, afrosgo, a chlymsi yw yr arth dan bob amrywiad. G-an gerdded ar yr oll o wadn y troed ar unwaith fplantigrade), mae ei ymsymudion yn araf; a chan fod ei goesau ol a blaen yn lled agos i ogyhyd, nis gall lamu. Mae y nifer luosocaf ohonynt yn oll- ysol; hyny yw, yn ymborthi ar lysieufwyd yn gystal ag ar gigau. Ceir y creadur hwn dan ryw amrywiad neu gilydd yn Ewrop, Asia, ac America. Dywed yr henafiaid eu bod i'w cael gynt yn Affrica hefyd. Nid ydynt i'w cael o gwbl yn Awstralia. Dywedir fod eirth yn gyffredin yn y wlad hon yn " yr hen amser gynt;" y cludid hwynt oddiyma i Rufain, i lenwi eu lle yn chwareuon cy- hoeddus y ddinas enwog hono. Mae arth cyffredin Ewrop oddeutu pedair troedfedd o hyd, a dwy droedfedd a haner o uchder, a'i flew o liw llwyd-ddu. Mae arth du Ameriea yn gyffredin o dan bum B CHWEFSOR, 1871.