Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhie. 2. Am Chwepbob, 1860. Cm XIII. Y BEDD YN COLLI Y FUDDUGOLIAETH. GtAS J. TODD, D.D. Y MAE'r Beibl, fy anwyl blant, yn llefaru Uawer am freuolder ein bywydau. A ddarfu i chwi erioed godi ar foreu yn yr hydref, a gweled y tarth tew yn hongian uwch- ben y maesydd a'r dolydd ? Nis gallasech weled dyn, nac hyd yn nod goeden fawr, o bell, o herwydd fod y tarth mor drwchus. Ewch allan yn mhen ychydig oriau wedi'n, pan fydd yr haul i fyny, a pha le y bydd wedi myned ? Y mae wedi ymdoddi ffwrdd, ac heb adael olion ar ol. Fe ddywed y Beibl mai fel yna y mae bywyd dyn. Gellwch edrych heddyw ar gynulleidfa fawr, a gweled yr heolydd yn llawn pobl, ac yn mhen ychydig flynyddau y maent oll wedi myned, ac wedi eu hannghofio fel y tarth. A ddarfu i chwi erioed, wrth rodio mewn heol, aros, ac edrych i ardd, ac edmygu y pwysîau prydferth, pa rai oedd yn ymysgwyd yn rhesi bob ochr i'r fynedfa ? Ŷr wyf yn meddwl i chwi wneyd. Y fath liwiau! Pa faint o amrywiaeth! Gwel- wch y tulip, y pinlc, y rhosyn! Mor brydferth ! Gwnowch aros am ychydig fisoedd, ac aroswch yno eto. Pa le yn awr y mae'r blodau hyny ? Y maent oll wedi gwywo a myned—oll wedi marw a diflanu! Fel yna y dywed y Beibl amdanom ninau; îe, hyd yn nod yr harddaf yn mhlith dynion, ein bod yn marw ac yn myned i fl'wrdd fel y blodeuyn. Yn awr, paham y mae dynion i gyd yn meirw ? A ydynt yn dymuno marw ? Na, yn bell oddi- wrth hyny. Gadewch i unrhyw ddyn fod yn glaf, ac mewn perygl i farw, a pha beth a wna yn lle marw ? Wel, efe a lwnc y feddyginiaeth chwerwaf ag y dymuna y meddyg iddo wneyd. Efe a gaiff dori ci fraich, ei goes, dynu ei lygad, neu wneyd unrhyw beth, os caiff ond yn unig fyw. Y mae yn well gan ddynion wneyd unrhyw beth na marw. Y mae'r rhan fwyaf yn anfoddlon hyd yn