Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. i&in Mai, 1859. Cyf. XII TE M T I A D C R 1 S T. {Yr Yagrif ddiweddaf.) Nl^ddywedir wrthym mewn un lle yn mha ffurf yr ymddangosodd y diafol i'r Iesu. Gadawyd ni mewn anwybodaeth am hyn : ac efallai na fyddem ronyn yn ddoethach pe y ceisiem ddyfalu. Chwaith, ni fynegwyd i ni pa fodd y cymerodd y diafol ef i ben pinacl y denil, ac i •' fynydd tra uchel.'' Ni chawn ddim on<i y ffeith- iau yn noethion: ac yr ydym yn ihwym, er rawjn cy sondeb, i'w cymeryd a'u deall mewn ystyr mor lythyren- ol a'r ffaith iddo yrnprydio. Gellir casglu yn rhesymol y gwyddai y diafol pwy ydoedd yr hwn ag jroedd yn ei demtio. Amlysjodd ei adni>byddiaeth ohono ar achljsur arall (gwel Marc v 7—9) Geilw ef yma yn FabDuw: a chan ei gymeryd ef fel y cyfryw, dywed, " Os Mab Duw toyt ti, arch i'r ceryg hyn fod yn fara." Gwyddai y gallasa: yr Iesu, pe yr ewyllysiai, erchi i'r ceryg hyny fod yn foddiou i ddi- wallu ei angenion : ac ar ei wybodaeth ohono yr aw- grymodd ei demtasiwn ; ie.ei holl deintasiynau. Os nad oedd yn gwybod pwy ydoeild, ar ba g>frify gellir tybio ei fod yn cymeryd yn ganiataol fod Crist yn Fab Duw ? Oddiyma y canfjddwn ysgelerder y diafol yn temtio un o urddas y Messia ! Cyn myned yn mhellach. goddefer i mi ddwyn i gof y darllenydd un peth arall:—bod t!rist yn bresenol yn nghyleh dechieu ar ei weinidogaeth gyhoeddus, dyben mawr yr hon ydoedd agor y ffordd er enill goruchatìaeth drwyadl ar y gelyn. Yr oedd y fuddugoliaeth orchestol hon i'w henill trwy farw ar y bryn. Ac ymddengys i mi fod cysylltiad agos yn bod rhwng ei weinidogaeth gyhoeddus a'i farwolaeth fel y moddion i gyraedd y gyfryw fuddug- oliaeth. Hefyd, ni fyddai yn briodol dadgysjlltu amcan y diafol yn^ei demtio yn yr anialwch oddiwrth ei ddyben