Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

*/o\ INLLAN. Rhif. 11. Tachwedd, 1850. Cîf. ix. YCHYDIG O HANES MISS FLORENCE NIGH- TINGALE. Y mae yn beth tra hynod fod mor Ueied o fy wgraffiad y foneddiges hon wedi ymddangos trwy y wasg. Yr hyn a ymddangosodd, mor belled ag y gŵyr yr ysgrifenydd, sydd ddarniog a thra anmherffaith ; eto gall y darnau wedi eu taflu yn nghyd, fel ychydig geryg gwasgaredig wedi eu gosod mewn mur, fod yn dderbyniol gan ddar- Uenwyr y Winllan. Rhaid addef fod y defnyddiau yn brin, ond ymdrechwn wneyd y goraf ohonynt. Ganed Miss Nightingale, yn ol ein hysbysydd, yn Ngwlad yr Haf, er yr ymddengys fod ei thad yn meddu tŷ yn awr yn swydd Derby, ac mai yno y prysurodd ei ferch ddyngarol yn ddioed ar ol ei dychweliad o'r Crimea. Y mae ei thad yn foneddwr o beth eiddo. Hi yw unig ferch ei thad. Cafodd addysg dda yn dra boreu, a dang- osodd fedr neillduol i ddysgu ieithoedd. Y mae yn medru chwech neu saith o ieithoedd mwyaf poblogaidd yr oes bresenol. Ymhynododd fel nurse, neu glaf-wein- yddes, rai blynyddoedd yn ol, yn y Luthenm Hospital fawr ar lanau yr afon Rhine, yn agos i Dusseldorf, West- phalia, yn Germany. Dywedir i garchariad yr enwog John Howard, yn Ffraingc, fod yn foddion i ddeffroi ei hysbryd dyngarol, ac i dori pen y tir i ddylyn bywyd o gymwynasgarwch a thrugaredd. Ond beth a fu yn ach- lysur i ogwyddo meddwl Miss Nightingale i ymroddi i fywyd o dosturi ac o gymhorth at y sâl a'r anffodus, nis gallwn ddywedyd. Yr oedd y gwaith yn dda, beth bynag oedd y cynhyrfydd a'r dyben. Nid ydym yn ameu nad oedd ei hamcan yn deilwng o grefydd bur a dihalog. edig. Ni oddefid i neb fyned allan o'r Ysbytty Luther- aidd hwn, fel gweinyddes y claf, heb fyned trwy arholiad tra manwl. Dywedodd arolygwr y sefydliad hwnw, na ddarfu i neb fyned mor foddhaol ac anrhydeddus trwy yr