Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 10. Hydrcf, 1853. Cyf. VI. COFIANT AM CATHERINE MARSHALL, ABERHONDDU. Yr Arglwydd yw awdwr ein bywyd. Ynddo ef yr yd- ym ynbyw, yn symud, ac yn botl. Efe, yr hwn sydd yn rhoi bywyd, sydd âg awdurdod i'w gymeryd efymaith. Nid yw ein Tad nefol yn bwriadu i neb obonom aros yn hir yn y byd hwn. Nid yma mae ein cartrefni. Ond y mae gan bawbryw negeseuon i'w gwneuthur.a rhywddy- henion i'w hateb tra yn aros yma. Y mae gan yr Ar- glwydd ddybenion teilwng yn anfoniad plant bychain i'r byd hwn am enyd fach, a rheswm digonol dros eu galw oddi yma drachefn. Dyma un o drallodion y teulu dynol, ac y rnae'r mater yn ddirgelwch i ni eto. Ònd yr hyn ni wyddom yr awr hon, a gawn wybod ar ol hyn. " Wele plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd, a'i wobr ef yw ffrwyth y groth." " Eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nef- oedd." Trwy ddawn cyfiawnder, trwy Iesu Grist, y maent yn cael teyrnasu mewn hywyd tragwyddol. Dyna ddigon. " Yr Arglwydd a roddodd ; yr Arglwydd a gy- merodd ymaith, bendigedig fyddo enw'r Arglwydd.'' Gwrthddrych y cofiant hwn ydoedd ferch i Mr. John a M. Marshall, Aberhonddu. Ganwydhi Chwefror28ain, 1843, a hu fyw hyd Chwefror lleg, 1853, pryd y bu farw, ac yr aeth i'r wlad sydd well. O ran ei chyfansoddiad naturiol, nid oedd y ferch fechan hon yn un o'r rhai cryf- af, eto yr oedd yn iachus a heinif. O ran ei meddwl yr oedd yn hynod o gyflym a bywiog ; ac fel yr oedd yn tyfu i fyny, yr oedd yn dyfod yn hynod o synwyrol a deallus. O'i mebyd yr oedd yn hoffo'i hysgol a'illyfrau. Dysg- odd ddarllen Cymraeg a Saesonaeg yn ieuangc iawn. Cymerai bleser mawr i ddysgu ar ei chof, ac adrodd allan yrhyn a ddysgai. Dysgodd acadroddodd allan yn yr Ys- gol Sabbothol y 23ain Salm pan yn bum mlwydd oed ; a pharhaodd i ddysgu ac adrodd Salmau, Hymnau, ac odl-