Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Rhif.5. Mai, lütöO. Cyf. III. WILLIAM DAWSON. Pregethwr Lleol poblogaidd, llafurus, a llwydd- iannus iawn yn ein Cyfundeb yn Yorhshire oedd efe. Yr oedd ef yn mhlith y Saeson yn Lloegr rywbeth yn debyg i'r hyn yw Mr. Edmund Evans gyda ni yn Nghymru. Fel yntau, yr oedd yn teithio tua chant o siwrneiau bob blwyddyn i gynal cyfari'odydd cyhoeddus. Fel yntau, braidd yr adnabyddid eí hyd yn nod pe ei cy- hoeddid wrth ei enw a'i gyfenw yn llawn. Nid Mr. Evans, nac Edmund Evans—nid Mr. Dawson na William Dawson, eithr E'mwnd, a Billy Dawson. Y mae llawer Mr. Evans, ond nid oes ond un E'mwnd yn ein byd Cymreig Wesleyaidd. Yr oedd llawer Mr. Dawson, a mwy nag un Ẅilliam Dawson, ond un Bìlly Dawson oedd yn yr holl gyf'undeb. Byddai yn arfer galw ei hun yn "Bregethwr Cynorthwyol Teithiol," a " dolen gydiol rhwng y Pregethwyr Cynorthwyol a'r Pregethwyr Gwein- idogaethol." í fermwr oedd ef wrth ei alwad fydol, ac nid oedd yr un ffermwr yn dyfod i farchnad Leeds â gwell gair iddo fel masnachwr gonest. Yr oedd ei air fel bond. Byddai dynion y byd yn ei ystyried yn un anhyblyg gyndyn onest. Fel Pregethwr yr oedd ei ddull yn blaen, ac yn llawn o gydmhariaethau a dychymygion, gyda chymhwysiadau grymus at gydwybodau y gwrandawyr. Yn hyn yr oedd yn wahanoliawni'n WelshDawson. Y mae ef— E'mwnd, yn fwy o ddadleuwr. Ymladd â phechod a phechaduriaid y byddai Billy, pan y mae ei alias o Soar yn ymladd fyn- ychaf â Chalfiniaeth a Chalfìniaid. Yn hyn yr oedd ffermwr bach Sir Gaerefrog yn gwahaniaethu ychydig oddiwrth fîermwr bach Sir Feirionydd. Yr oedd ef un