Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 2. Chwefvoi% IttíSO. Cyf. III. Y PARCH. ROBERT NEWTON, D. D. Daeth Dr. Newton i'r weinidogaeth yr un flwyddyn a Dr. Bunting, yn 1799. Dywedir yn gyffredin mai o dan bregethiad gwraig a arferai sefyll i fyny y pryd hyny yn gyhoeddus, o'r enw Mrs. Tafft, y cafodd ei argyhoeddi; a dy wedir y byddai yr hen wraig yn arfer â gweddio yn daer atn i'r Arglwydd roddi iddi Robert Newton arall fel sêl ei llafur. I'r rhai a glywsant ei enw, ond heb ei weled erioed, bydd darluniad o'i berson yn foddhaol:—Y mae ganddo wynebpryd dynol hardd, golwg caled iachus, ac wedi melynu peth mewn tywydd; ei gernflew yn croesi yn mhell dros y bochau, ac wedi eu tocio yn ofalus, a'u rhwystro i dyfu ar y rhan isaf o'r cernau, yn union o waelod y clustiau i ychydig yn uwch na'r wefus uchaf. Hyn, yn nghyda'i gerddediad syth iawn, a'i gwna yn debygi hen filwr ynei ymddanghosiad. Y mae y trwyn yn gribog, y geg fel pe byddai wedi ei llunio i siared yn gyhoeddus, ac i ollwng geiriau allan mewn llais uchel a chlir heb ddim trafferth; y gwallt yn naturiol dywyll, ond y mae ef yn gwsigo ffug ar y coryn, yr hwn sydd mor naturiol fel na ellid gwybod mai ffug ydoedd cyn i'r whishers droi yn wỳnion. Y mae ganddo dalcen da, ac y mae golwg urddasol ar ei holl ymddanghosiad corfforol; llygaid tywyllion, amrantau duon, ac aeliau bwäog fel hanner lleuad. Y mae tua chwe throedfedd o daldra, ei ysgwyddau yn uchel, a'i holl ffrâm yn gryf, fel wedi ci gyfaddasu i ddal unrhyw lafur. Y mae ei lais yn nerthol a soniarus iawn, a'i holl amrywiadau, isel ac uchel, yn foddhaol i'w wrando; ac i'w glywed yn glir yn mhob rhan o'r adeilad, a'r gynulleidfa fwyaf, a hyny heb y drafferth leiaf iddo ei hun. Nid yw yn ddyledus i gelf-