Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Rhif. 5. Mai, 1949. Cyf. II. MARWOLAETH ELIZABETH PUGH. Mr. Gol.—Dymunaf arnoch dderbyn yn foddhaol yr ychydig hanes a ganlyn am ymadawiad â'r byd hwn un o'r genethod bach mwyaf gobeithiol yn ein Hysgol ni yn Nolgellau, ac am iddi gael ei phlanu mewn rhyw le cyf- leus yn eich Gwinllan brydferth a ffrwythlawn. Elizabeth Pugh oedd ferch i John a Gwen Pugh o'r dref hon, pa rai sydd yn aelodau gyda'r gangen yma o Eglwys Crist a elwir gan ddynion yn Wesleyaid. Yr oedd Eliza fach yn un o rai prydferthaf yr oes, o ran glen- did gwedd ac ymddygiad; ac, yn ei bywyd, yr oedd yn rhagorol ffyddlon gydag achos y Tý, yn neillduol yr Ysgol Sabbothol, y fagwrfa fawr; ac o fronau llawnion y cyf- ryw bu yn tynu, fel plentyn iach, ddidwyll laeth y gair, ac yn yfed y phioleidiau addysgiadol a gyflwynid ger ei bron, heb unrhyw anhawsdra; a'i hawydd raawr hi fyddai yn wastad yn ymdori mewn deisyfiadau a gofyn- iadau am gael gwybod yroll o'r Ysgrythyr Lân, a'imedd- wl yn ymeangu a'i chalon yn ymagor am y " pethau yn nghylch Iesu o Nazareth." Yn ddidor nos a dydd yr oedd yn dỳn yn y gorchwyl o "chwilio'r Ysgrythyrau," nes yr oedd ei chynydd yn eglur i bawb ; a'r oll o honom, fel Ysgol ac Eglwys yn y lle, oeddym yn barod i ofyn fel y rhai gynt, "Beth fydd o'r plentyn hwn?" Dy- wedodd gobaith ganwaith, " Hi a fydd mawr." Bodd- lonid ni o'r bron â sicrwydd am "fam" ddoeth a da i fod eto yn Israel. Ond fe'n siomwyd yn aruthrol! Tarawyd ni â syndra! Gwaedodd ein calon; "tywalltodd ein llygaid ddwfr phiol lawn;" a dysgwyd gwers newydd i ni, "nad ein ffyrdd ni yw ei ffyrdd Ef." Pa le y mae hi? Paham y mae ei lle heddy w yn wâg ? Gorbruddodd awyr ein Hysgol—dystawyd peroriaeth y gân—dygwyd cwmwl ar ogoniant y rhestr am ei habsenoldeb hi! Ond