Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y ¥11LLAN Ehif. 11.] TÂCHWEDD, 1883. [Cyf. XXXVI. SYR ISAAC NEWTON. 1AU fod prif ffeithiau bywyd yr athronydd a'r seryddwr anfarwol ý mae ei enw uwch ben yr ysgrif honyn ddigon hysbys i anrryw o ddarllen- wyr y Winììan eisoes; oblegyd nid oes odid gylchgrawn uiisol erioed wedi ei gyhoeddi ar gyfer ieuenctyd nad ydyw hanes bywyd Syr Isaac Newton wedi cael lle ynddynt. Am hyny y mae yn ddiangenrhaid i ni fyned yma i ormod manylder gyda hanes ei fywyd. Ganwyd Syr Isaac Newton yn Woolsthorpe, swydd Lin- coln, ar ddydd Nadolig, 1642. Yr ydoedd yn hanu o deulu pai*chus a henafol; ond am flynyddau lawer cyn geni gwrth- ddrych y syhvadau hyn yr oedd eiddo y teulu wedi suddo i fychandra a fygythiai adael i etifeddiaeth y Newtons fyned i ddiddymdra. Pan anwyd Isaac yr ydoedd mor eiddil a bychan o gorph, fei nad oedd neb yn dysgwyl y buasai yn byw ond }^chydig