Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

96 Y WlNLLAN j Dymon Dinod y Beibl. \ Nabal,— Y Goludog Ynfyd. Gan y Parch. R. W. Jones, L,langefni. "]WR anhygar anghyffredin sydd i fod dan sylw y mis hwn. Dyn di-ddiolch, di- gymwynas, a hollol di-ddaioni ydoedd Nabal. Eto buddiol ydyw edrych ar ddarlun y Beibl o hono, er mwyn y rhy- buddíon difriíol a'r gwersi pwysig sydd ganddo i'n dysgu. Carwn i blant y Winllan dyfu i fyny yn gymeriadau hawddgar a deniadol. Mawr fy awydd i'ch perswadio i ffieiddio pobpeth annheilwng a drwg. Oni b'ai am hyn, ni fuaswn yn aflonyddu ar ddinodedd Nabal. Ffaith eithriadol yn nglyn â'r dyn hwn ydyw, nas gŵyr neb ei enw priodol. Mewn gair, pechodd ymaith ei enw gwreiddiol; anmhosibl credu i'w rieni ei alw pan yn blentyn yn Nabal. Wyddoch chwi beth ydyw ystyr y gair ? Ynfyt- tyn, neu "ffŵl!" Ydych chwi yn meddwl y buasai ei íam yn ei alw wrth y fath enw hagr ? Na fuasai, byth, rwy'n coelio. Mewn gwirionedd llysenw {nickname) arno ydyw Nabal. Arferiad pur anmhriodol ydyw rhoi llysenw ar neb. Dylai darllenwyr y Wi?älan yn anad neb roi gwyneb yn erbyn y fath arferiad. Ond difrifol o beth i ddyn ydyw ennill enw drwg, a l>n wrtho am byth. Meddyliwch 'rwan am y dyn hwn. Tyfodd i mewn i'w lysenw nes y cuddiodd ef yn llwyr a hollol. Cariodd yr enw mor hir, a disgrifiodd ef mor fanwl, nes i bawb yn Ngharmel, lle y cartrefai, anghofio yr enw roed arno gan ei rieni pan yn blentyn. Adwaenid eí yn mhell ac yn agos gan ei gymydogion, a'i weision—yn wir gan bawb, wrth yr enw Nabal. Gelwid ef, hyd yn nod gan ei wraig, yn Nabal. Ni feddai enw aralí ond hwn arno ei hunan. Dirywiodd ac ymlygrodd gy- maint fel nad ystyrir yr enw yn insult arno. Nid syndod felly i'r Beibl ei gario i lawr i ni, er ein haddysg, dan yr enw Nabal. Dywed yr hanes wrthym ei fod yn ŵr mawr iawn, a golud- og tuhwnt i'r cyflfredin o bobl ei oes. Hanai o deulu Caleb.