Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSOEFA. Rhif. lvii.] M EDI, 1835 [Llyfr v. CRIST YN ESAMPL. Golwg fet ar Grist yn cyfiawni ei ddyledsivydd tu ag at ei gymydog, fel Esampl i ni. " Canys rboddais esampl i chwi, fel y gwnelech chwithau megis y gwneuthum i chwi-"—Ioan 13.15. 1 íoan 2. 6. Cyflawnder y gyfraith yw cariad, at Dduw, a'n cymydog ; ac y mae yr olaf, os bydd yn iawn, a'i sail ar y cyntaf: er hyny, yr oedd cariad Crist tu ag at ei gymydog, i raddau helaeth, yn tarddu oddi ar ei gariad at ddyn fel pechadur: ac am hyny, y mae llawer, 'ie, yr oll, o'i waith yn y byd, er ei fod o ran ei brif ddiben wedi cael ei wneuthur ganddo dros ei bobl fel pechaduriaid; etto o ran îs ddibenion y mae wedi cael ei wneud tuagat ddytiion fel eigymydogion ; aeyn y goleu hyn y bydd rhai pethau yn y traethawd h wn i gael eu hystyried • ac y mae yr oll yn esampl i ni i garu ein gilydd, Un o ddibenion Crist yn cyflawni ei holl ufudd-dod gweithredol, a dioddef- ol, oedd, ' i roddi esampl i ni;' er nad hyn oedd ei brif ddiben. Mae yr esampl hon yn ymddangos yn ddau-blyg. Yn î. Yn gynllun i'n cyfarwyddo. Ac, yn 2. Yn anogaeth i'n cymell, i fy w yn debyg i Grist. Y cyntaf yw'r matter dan syìw. Y mae yn dywedyd wrthym yn eì esampl, yn gystal ag yn ei athrawiaeth, ' A dysgwch genyf-' Ni a gyfyngwn y traethawd hwn at ei ufudd-dod i'r ail lech ; ni a gawn. Yn T." Nodi rhai o lawer o ddyled- sẃyddau a gyflawnodd eí'e mewn ufudd- dod i bob un o orchymynion yr ail lech. Yn IT. Nodi y pethau oeád yn cael eu dangos ganddo i ni trwy hyny, a phrofi o'r ysgrythyr, trwy orchymyn'ìön pendant, neu esamplau rhai o'n cydgreaduriaid fod y pethau hyny yn ddyledus arnom. I. Cyíìawnodd ddyledswyddau y pum- med gorchymyn, yr hwn sydd yn gor- chymyn ein holi ddyledswyddau perthyn- asol. (1.) Anrhydeddodd ei r'ieni naturiol; trwy fod yn ostyngedig iddynt, Ijuc 3. 51. trwy orchymj'n ei í'am i ofal loan, loan 19. 26. 27. a'r cyfì'elyb. Dangosodd i ni trwy hyny, 1.1 ddangos cariad serch- og tu ag at ein rhieni, Gen. 46. 29. 2. I ddangos parch ac anrhydedd mabaidd iddynt, Lef. 19. 3. 3. I ymddwyn yn barchus ac yn weddaidd tu ag attynt, 1 Bren. 2. 19. 4. I ufuddhau i bob peth cyfreithlon a orchymynont, Eph. 6. I. 5. 1 ymddarostwng i'w holl anogaethau, rhybuddìon, a cheryddon, Diar. 31, 1, 6. I roddi iddynt ad-daüad caruaidd o'u tynerwch tadol, trwy ofalu am danynt yn eu henaint, 1 Tim. 5. 4. Gen. 47. 12. (2.) Anrhydeddodd swyddwryr gwlad- ol; trwy dalu teyrnged i'r llywodraeth Rufeinig, Mat. 17. 27. trwy gymeryd ei farwolaethu trwy law swyddwyr gwladol, loan pen. 18. a 19. trwy aniddirí'yn y swyddogion rhag cleddyf Pedr, Ioan 18, 10. 11., &c. Dangosodd i ni trwy hyny ddyledswydd gweision i'w meistriaid, a deiliaid i'w lly wiawdwyr. 1. Eu parchu ac ufuddhau iddynt, fel rhai wedi caei eu gosod gan Dduw yn y cyfryw sefyllfa- oedd, Eph. 6. 5, 6. Rhuf. 13. 1—5. 2 I fod yn foddion i'r hyn a osodwyd gan- ddynt, o gyflog, rhyddid, &c. a bôd yn' ewyllysgar i dalu yr hyn sydd ddyledus iddynt; megis toll, teyrnged, &c. Gen, 30. 33, 1 Cor. 7. 21. Rhuf. 13. 6, 7. 3. Ymddarostyngiad llariaidd i'w eu ceryddon a'u cospedigaethau ; ie, hyd yn 2 L