Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. XXV.] IONAWR, 1833. [Llyfr iii. BYWGRAFFIAD. YR ARCHESGOB USHER. Hanodd yr Archesgob Usher o hen deulu anrhydeddus, amrywiol ganijhenau o ba j rai a wasanaethasant mewn swyddau j goruchel o oes i oes yn ninas Dublin, yn yr Iwerddon. Fù dad^ Arnold Usher, gwr o ddawn a dysg, oedd un o'r Chwech Ys- grifenydd Llŷs Canghellwr yr Iwerddon. Ei fam oedd Margaret, merch James ! Stanihurst,un o benaethiaid y Llŷs Cang- ! hellwr, Cofrestrydd Dublin, areithiwr Tỳ y Cyffredin yr Iwerddon am dri Senedd olynol. James Usber, gwrthrych y Cofiant hwn, yr hwn a fu yn offeryn mor ddefnyddiol yn eglwys üduw, a anwyd yn Dublin, yii mhlwyf St Nicholas, lonawr 4. 1580. Dangosodd, pan oedd yn ieuangc iawn, fod ganddo dalentau rhagorol, a thueddiad cryf anarferol at ddysgeidiaeth. Mae yn beth nodedin iawn i sylwi arno, ei íbd ef yn ddyledus am ei addysg boreuol, i'w ddwy fodryb ffyddlon, oddiwrth ba rai y dysgwyliasid llai o gynuorthwy na neb, oblegid eu bod i'll dwyoedd yn ddeillion o'u mebyd. Ond yr oeddynt, megis mam a nain Timotheus gynt) yn nodedig am eu duwioldeb, ac mor hysbys yn yr ys grythyrau ag y medrent adrodd lawer iawn o ddosparthranau o honynt ar dafod leferydd. Fel hyn y bu i Dduw, yr hwn ei hunan sydd yn dewis ei offerynau fel y myno efe, roddi anrhydedd ar y ddwy wraig dduwiol hyn, drwry eu gwneuthur hwyut, er eu bod yn ddiffygiol o'u golygon corphorol, yr ofierynau cyntaf i gyfrann gwybodaeth grefyddol, i unawnaed wedi hyny, mor enwog mewu duwioldeb a defnyddioldeb. Wedi iddo ddysgu darllen, efe a ddech- reuodd chwiiio y Bibl, yrhwn a alwai efe bjth wedi hyny, yn " L!yfr y llyfrau," ac yn ngwybodaeth o'r hwn wedi iddo ddech- reu mor ieuangc, efe a gynnyddodd yn ddirfawr. Ymddengys i James Usher aros dan addysg ei ddwy fodryb hyn nes oedd yn wyth mlwydd oed. Wedi hyny dodwyd ef mewn Ysgol gyda Mr. James Fulierton a Mr. James Hamilton, yn Dublin : yma y bu efe dan addysg am bum mlynedd. Yr oedd efe mor lafurus ac mor ddeail- twrus, fel y cynnyddodd efe ymhell tu hwrnt i'w gydysgolheigion yn yr iaith lladin, ac inewn areithyddeg. Mynych y crybwyllai efe, ar hyd ei oes, y fraint a gawsai efe o gael ei ddygiad i fynu dan addysg yr athrawon ysgolheigaidd hyn. Mae yn amlwg fod ystyriaethau sobr ar ei feddyliau, mewn ] ertìiynas i grefydd a matter ei enaid pan oedd yn bur ieuangc. Efe a gofiodd ei Greawdwr yn nyddiau ei ieuengctyd, ac a gymmerodd yr iau arno pan oedd yn mlodau ei ddyddiau. Y prif foddion a fendithiudd yr Ar- glwydd er ei dröedigaeth oeddynt a gan- lyn. Y moddion cyntaf oedd pregeth a glywsai efe pan oedd yn ddeng ml. oed, ar Rhuf, xii. 1. " Yr wyfyn attolwgi chwi frodyr, er trugareddau Duw, roddi o honoch eich cyrph yn abcrth by w, sanc- tuidd, cymmeradwy gan Dduw ; yr hyn yw eicb rhesymol wasanaeth chwi." Ar ol y bregeth hon efe a ddarllenodd Sylw'adau Dr. Perkins ar sancteiddio y dydd Sabboth, yr hyn a fu yn fendithiol iawn iddo, canys nid anghofiodd hwynt ar hyd ei oes. Yn fuart wedi hyuy, efe a ddnrllenodd Fyfyrdodau St. Augustine ; a chawsant argrafl' ddwys ar ei galon. Fel hyn, efe a ddechreuodd ymaflyà yn foreuol a difrifol mewn rhagorfreintiau a dyledswyddau crefydd. Ond buan yrym-