Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. clxiii.] GORPHENAF, 1844. [Llyfr XIV. COFIANT AM Y PARCH. WM. LLOYD, B.A. O GAERNARFON. Anwtl Frawd,—Yn oleichdymuniad, pan oeddych y tro diweddaf yn Nghaernarfbn, ymholais gydag amryw i geisio casglu rhyw fraslun o hanes bywyd y diweddar Barch. Wm. Lloyd, ond methais a llwyddo i gael nemawr o ddefnyddiau ynghyd ; a hyny oblegid fod y rhai a'i hadwaenai yn mereu ei oes naill ai wedi myned i ffordd yrr holl ddaear, neu o dan effeithiau henaint mor bell, fel nas gallant roddi hyspysrwydd am dano gyd ag unrhyw gysondeb ; ac am nad arferai yntau hefyd yn ei fywyd ymddiddan am dano ei hun, na hyspysn nemawr o helyntion ei einioes,hyd yn nod yn ei gym- deithas a'i gyfeillion penaf. Pan y'i holid am foreu ei fywyd, ei ddygiad i fynu, ei dröedigaeth o gyfeiliorni ei ffordd, ei ymun- iad a'r Trefnyddion Calfinaidd, ac am ei symudiadau o Fôn i Gaernarfon, oddi yno i Nefyn, yna i Glynog, ac oddiyno i Gaer- narfon drachefn, ychydig iawn a ddywedai; a rhoddai ar ddeall i'w gyfaill ei anewyllys- garwch i wneuthur hyny trwy ei gynildeb yn ateb, neu hollol ddystawrwydd, neu trwy droi yr ymddiddan am ryw beth arall. Nid yw y wybodaeth a gefais am y Parch. Wm, Lloyd yn cynwys cymaint o ddefnyddiau ag a osodai un mewn mantais i ysgrifenu yr hyn a deilynga yr enw Hanes ei fywyd, nac hyd yn nod fras-lun o'r pethau mwyaf hynod yn ei fywyd. Ond gan nad oes neb arall mwy galluog yn cymeryd y gwaith mewn llaw, wele i chwi yr hyn a ellais i ei gael o hyspysrwydd am dano, rhag i goífad- wriaeth y fath gristion teilwng fyned yn ddi- •ylw a syrthio i lwch annghof. Diddadl fod 'coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig' ynddo ei hun, ac yn cael ei gyd- nabod felly gan bawb sydd yn perchen egwyddor santaidd. Dyüd mawrhau gras Duw yn ei effeithiau santeiddiol, cystal ag yn y dystiolaeth ddatguddiedig. Ac nid ydyw amgyffredion gweiniaid dynolryw tra yn trigo mewn tai o glai, yn gallu adwaen gras Duw yn ei egwyddorion, neu yn ei athrawiaethau datguddiedig mewn geiriau, cystal a phan y mae yn tori i'r amlwg yn ei effeithiau, trwy flurfio darlun gweledig o hono ei hun yn mywyd dyn duwiol. Ni ddichou un dyn roddi sylw manwl a diduedd » effeithiau y grefydd gristionogol yn nhrö- £(ligaeth a santeiddiad pechadur, heb i'w feddwl gael ei weithio yn naturiol gan y cyfryw effeithiau i gredu ei dwyfoldeb mor benderfynol fel ag i ymdeimîo uwchlaw angen am gynorthwy unrhyw brofion ychwanegol; gan fod cywirdeb golygiadau, neu farnau crefyddol, i'w ganfod yn yr effeithiau a gyfyd oddiar eu credu, a chyd- ymffurfio a hwynt mor eglur ac anffaeledig ag y gollir adwaen gwreiddyn pren wrth ei ffrwyth, neu adwaen ansawdd achos dirgel- aidd wrth ei eífeitbiau amlwg. Pa ddirgeledigaethau bynag i ni a ddichon fod yn athrawiaethau dyfnion duwioldeb, a pha mor annirnadwy bynag i ni yw y modd y mae yr Ysbryd Glân yn gweithredu ar ysbryd dyn ; rhaid addef fod ei effeithiau yn santeiddiad pechadur yn cydweddu â nodweddiad Duw, ac yn gyson â dedwydd- wch dyn ; ac yn effeithiau na chawsant erioed eu cynyrchu gan osodiadau dysgedig y philosopbyddion paganaidd, na chan ddychymygion dichellgar Mahometaniaeth, nac hyd yn nod gan unrhyw ddyfais neu osodiad dynol, Hawdd y gallai yr efengyl gyfarch ei gwrthodwyr a'i gwadwyr yn ngeiriau ei Sylfaenydd, pan y dywedodd, ' Onid wyf fi yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhad, na chredwch i mi. Ond os ydwyf yn eu gwneuthur, er nad ydych yn credu i mi, credwch y gwoithredoedd.' Pwy a all betruso dwyfoldeb yr ymadrodd am y groes wrth weled yn amlwg ei effeithiau yn dwyn y dyn annuwiolaf yn ddyn duwiolaf, y pellaf oddiwrth wedd'io i wedd'io yn ddibaid, y mwyaf anystyriol o bethau ysbrydol yn fwyaf cydwybod djrner ; troi un a ddiarebid yn ei ardal am falchder, i gael ei ddiarebu am ei ostyngeiddrwydd gan bawb o'i ad- nabyddion, neu wneuthur un o'rrhai gwyllt- af yn ei gyraydogaeth i ragori ar bawb braidd yn ci bwyll a'i larieidd-dra. Rhaid edrych ar y pethau hyn yn ffeithiau anwad- adwy o ddwyfoldeb crefydd Iesu o Nazareth, gannas gallasai unrhyw osodiad gynyrchu y fath effeithiau oni bai fod Duw gydag ef. Heblaw ei bod wedi cael profi ei gwirion- edd trwy ddylanwadau goruwch-naturiol yr Ysbryd Glân yn ei sylfaeniad, parhaodd i gynyrchu ffeithiau o'i dwyfoldeb trwy yr oesoedd yn ei heffeithiau santeiddiol ar ei deiliaid. Ac nis gellir gwneud cyfiawnder ag efengyl Crist heb ganiatau fod pob dyn