Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y. DETSOEFA. Rhif. 607.] MAI, 1881. [Llyfr LI. STEPHAN YN EI GYMERIAD PERSONOL A SWYDDOL. PREGETH A DRADDODWYD GAN Y PARCH. THOMAS THOMAS, LLAN- YMDDYFRI.* Actau vi. 3—5 : viii. 2 : "Am hyny, frodyr, edrychwch yn eich plith am seithwyr da eu gair, yn llawn o'r Ysbryd Glân a doethineb.....A hwy a etholasant Stephan, gŵr llawn o fifydd ac o'r Ysbryd Glân. . . . A gwŷr bucheddol a ddygasant Stephan i'w gladdu, ac a wnaethant alar mawr am dano ef." yx ymddangosai pethau yn eu mysg am dalm o amser, o'r diwedd wele flagur bychan oddiar wreiddyn chwerwedd yn dyfod i'r amlwg yn yr ardd baradwys- aidd hon: " Bu grwgnacii gan y Groeg- iaid yn erbyn yr Hebreaid am ddir- mygu eu gwragedd gweddwon hwy yn y weinidogaeth feunyddiol." Wrth y Groegiaid hyn y golygir yr Helenist- iaid, sef yr Iuddewon Groegaidd. Cyn- nwysent yr Iuddewon oedd yn wasgar- edig yn nhir Groeg, ynghyd a'r prosel- ytiaid o'r Cenedloedd i'r grefydd Iu- ddewig. Yr oedd eu cyfoeth a'u llios- ogrwydd yn ihoddi iddynt ddylanwad mawr yn yr eglwys yn Jerusalem. Ond nid oedd yr Iuddewon Hebreaidd, y rhai a drigent yn Palestina, yn eu hys- tyried mor bur yn eu hiaith a'u harfer- ion â hwynt-hwy. Parai y gwahan- iaeth hwn iddynt deimlo braidd yn eiddigeddus o'u gilydd, nes o'r diwedd fod y Groegiaid yn dwyn cyhuddiad yn erbyn yr Hebreaid am esgeuluso eu gwragedd gweddwon hwy yn y wein- idogaeth feunyddiol, neu y cyfraniad beunyddiol o arian neu ymboith. Teb- yg fod sail i'r cyhuddiad, er nad oedd bwriad gan yr Apostolion i achlysuro y fath gŵyn; er hyny y fath oedd eu gwaith a'u prysurdeb fel nas gallasent wneuthur cyfiawnder â nifer mor lios- og. Càn gynted ag y daeth hyn yn wybyddus i'r deuddeg, y maent yn Parodd cynnydd cyflym yr ej_ ieuanc yn Jerusalem a'r cylchoedd, angheDrheidrwydd am ychwanegiací mewn swyddogion i'w gwasanaethu. Disgynodd cynnwys " addewid y Tad;' mor haelfrydig a chyda'r fath ddylan- wad, nes gwneuthur yr ychydig yn lliaws—y fechan yn fil, a'r wael yn genedl gref. Prysurodd yr Arglwydd i hyny gymeryd lle trwy chwanegu beunyäd at yr eglwys y rhai a fyddent gadwedig. Ond er amled eu nifer, asiwyd hwynt i'r fath undeb ac anwyl- deb y naill at y lleill, fel nad oedd ganddynt oll ond un galon, un enaid, ac un gôd. Rhoddasant eu hunain i'r Arglwydd, a gosodasant eu heiddo wrth draed yr Apostolion. Ymddengys fod \r holl wasanaeth perthynol i'r eglwys yn cael ei ddwyn ymlaen o dan arolyg- iaeth bersonol yr Apostolion, ynghyd a'r ychydig a benodid ganddynt i'w cynnorthwyo. Hwynt-hwy oedd yn cyfranu elusenau i'r rhai a fyddent mewn anghen; a gwnaent hyny gyda'r fath fanylwch, fel nad oedd yr un ang- henus yn eu plith hwy. Ond er mor ddymunol a gobeithiol * Traddodwyd y bregetû hon ar yr achlysur o farwolaeth Mr. William Davies, Gwydre, Talsarn, Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin. Bu efe farw dydd Gwener, Mawi-th 4, 1881, yn 55 mlwydd oed, a chladdwyd ef ar y Mercher canlynol, pan y daeth y nifer mwyaf a welwyd yn nghof neb sydd yn fyw ìuuwii angladd vuu, i barehu ei goíladẁriaoth.