Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DEYSOEFA. Rhif. 690.] EBEILL, 1888. [Llyfr LYIII. D U E D D AT YSGAFNDEE A WELIR YN EIN HYSGOLION SABBOTHOL : A PHA BETH A WNEIR I WRTH- WEITHIO HYN.* GAN Y PARCH. THOMAS OWEN, PORTMADOC. Nid oes ond ychydig o amser er pan oeddym yn talu gwarogaeth i'r Ysgol Sabbothol fel un o sefydliadau daionus ein gwlad, drwy gynnal gẁyl ei chan- mlwyddiant. Nid yn aml y pentyr- wyd cymaint clod ac anrhydedd ar unrhyw sefydliad ag ar yr Ysgol Sab- bothol y pryd hwnw, a hyny heb gymaint ag un sain anhynod o un cyfeiriad. Ac o ran hyny, nid oedd ond dadganiad o'r teimlad dystaw ag oedd yn bod bob amser gyda golwg arni, ond fod yr adeghono yn gyfleus- dra neillduol i roddi mjnegiad o hono. Ac y mae yn resyn fod dim gwybed meirw yn disgyn ar enaint yr apothe- cari, fod dim lladron yn dwyn llewyrch ei goleuni, na bod dim sorod yn tywyllu ei haur. Y mae y mater a roddwyd i mi yn destyn ychydig sylwadau, yn rhoddi ar ddeall fod ysgafnder uwch ben y Bibl yn ein Hysgolion Sabbothol; ac os ydyw yn bod, nid ydyw yn rhy fuan i droi arno a'i roddi i lawr. Y mae yn gwestiwn i ba raddau y mae ysgafnder yn gweddu i ddyn ar unrhyw adeg; o leiaf, y mae bob amser bethau yn perthyn i'w sefyllfa a ddylai gymedroli hyny, sef yr ystyr- iaeth y byddwn yn bod mewn byd ar ol hwn, a bod ein hymddygiadau yma yn y gwahanol gylchoedd yr ydym * Papur a ddarllenwyd yn Nghyfarfod Athrawon Doabarth Tremadog. j ynddynt yn taflu eu dylanwad ymlaen ar ein sefyllfa dragywyddol, ac nas gwyddom na'r dydd na'r awr y bydd ein bywyd yn y byd hwn yn cael ei ddwyn i'r terfyn. Ac oni ddylai y pethau hyn fod yn ddigon o falasarn fel na byddom yn cael ein lluchio a'n taflu mewn ysgafnder ar unrhyw adeg ? Hefyd, dywedir mai dwysder ac nid ysgafnder a welir yn nodweddu y dos- barth uchaf o feddyliau—fod rhyw ddwysder, sadness, yn nodweddu yr athrylith gref ac uchel. Byddai yn dda i'r coegddyn ddeall nad ydyw yn cael ei ystyried yn alluog, mwy nag y mynai y prophwyd ei gyfrif yn fonedd- ig. Neu rhoddwn dro drwy brif fas- nachdai ein teyrnas, lle mae pethau pwysig masnachaeth yn cael eu dwyn ymlaen; ni cheir ynddynt yr ysgafn- der isel na'r troi i bob siaradach di- bwrpas, ondmae yrhyn syddganddynt mewn Uaw yn dwyn eu holl fryd. Y mae ysgafnder yn un o'r pethau bach- genaidd ag y mae dynoliaeth addfed yn ei roddi heibio ymhob cylch. Ond am ysgafnder yn yr Ysgol Sab- bothol yn peri ymddygiadau annheil- wng uwch ben y Bibl—oni ellir gofyn, Pa fodd y daethost ti ymaì Pwy fuasai yn dysgwyl dy gael yma yn anad un man ? Yr ymofyniad ein harweinir yn naturiol iddo yw,—Beth a allai fod rhai o achosion yr ysgafnder hwn ?