Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DEYSOEFA. Rhif. 688.] CHWEFEOE, 1888. Llyfr LYIII.l Y BYWYD YSBEYDOL. GAN Y PARCH. DANIEL D. JONES, TJPPER BANGOR. Un o wirioneddau egluraf y Bibl, yn enwedig y Testament Newydd, ydyw fod y pechadur sydd yn derbyn yr Ar- glwydd Iesu yn Waredwr, yn derbyn bywyd : " Yr hwn y niae y Mab gan- ddo," meddai Ioan, " y mae y by wyd ganddo; a'r hwn nid yw ganddo Fab Duw, nid oes ganddo fywyd." A chẁyn yr Arglwydd Iesu gyda golwg ar rywrai ydoedd, " Ni fynwch chwi ddyfod ataf fi fel y caffoch fy wyd." Y mae yn amlwg fod y neb s>dd yn dyfod at Grist trwy ffydd, yn cael bywyd ganddo. Nid bywyd yn ngwyneb deddf, ond bywyd fel egwyddor yw hwn. Pan y mae dyn yn cael bywyd yn ngwyneb deddf, cael y bywyd sydd ganddo y mae; mewn geiriau eraill, cael peidio colli ei fywyd. Ond y mae yr hwn sydd yn derbyn yr Arglwydd Iesu yn cael bywyd nad oedd yn ei feddu o'r blaen: " Myfi a ddaethum fel y caent fywyd." Y mae yn amlwg oddiwrth hyn fod dyn yn gymhwys i dderbyn bywyd sydd yn hollol wa- hanol i unrhyw fath o fywyd a gyn- nyrchir gan natur. Y mae dau gwestiwn y ceisiwn ddy- weyd gair arnynt gyda golwg ar y bywyd yma,—sef Pa fath yw o ran ei natur? a Pha rai yw ei effeithiau ar y rhai sydd yn ei dderbyn ? I. Beth yw natur y bywyd y mae yr Arglwydd lesuyn ei roddi i'r rhai 8ydd yn credu ynddo ? Dyma fel y dywed Ef ei hun: " Yr wyf yn rhoddi iddynt fywyd tragy- wyddol." " By wyd tragy wyddol " yw yr hyn y mae yr Arglwydd Iesu yv ei roddi i'r neb sydd yn credu ynddo. Mewn un ystyr, y mae gan ddyn fyw- yd tragywyddol yn naturiol, sef yn rhinwedd ei greadigaeth. Y mae Duw fel Creawdwr yn cynnysgaethu dyn â bywyd tragywyddol; hyny yw, âbyw- yd fydd yn ymweithio yn ei natur tra y bydd hi yn bod, a hi a fydd yn bod byth. Dyma fywyd tragywyddol, sef tragywyddol ddiddiwedd, yn feddiant naturiol gan ddyn, ac feliy yn cael ei roddi iddo gau Dduw fel Creawdwr. Ond y mae yr Arglwydd Iesu yn rhoddi bywyd tragy wyddol iddo hefyd, pan y dygir ef i gredu ynddo fel ei W7aredwr. Beth yw y gwahaniaeth rhwng y ddau fywyd? Dyna ydyw, y mae'n ddiau—y bywyd tragywyddol y mae Duw fel Creawdwr yn ei roddi iddo, bywyd heb ddim diioedd i fod arno ydyw; ond y bywyd y mae yr Arglwydd Iesu yn eiroddi iddo, bywyd nad oes dim dechreu iddo ydyw. Bywyd yn cael ei greu pan y mae y dyn ei hunan yn cael ei greu, ac yn cael ei blanu ynddo, yw y naill; tra mai bywyd na chrëwyd mo hono yn cael ei drosglwyddo iddo, y foment y mae yn credu, yw y llall: " Yr wyf fi yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol." Nid creu hwn y mae yr Arglwydd Iesu, ond ei roddi: " yr wyf fi yn rhoddi iddynt." Yr hyn sydd yn bod eisoes yw yr hyn a roddir. Felly, y mae y bywyd tragywyddol y mae y credadyn yn ei dderbyn gan yr Ar- glwydd Iesu yn bod cyn i'r credadyn ei dderbyn. Bywyd yn cael ei roddi ydyw, nid yn cael ei greu; a bywyd