Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DETSOEPA. Rhif. 674.] RHAGFYR, 1886. [Llyfr LVI. PREGETH ANGLADDOL I'R DIWEDDAR DAVID ROBERTS, YSW., U.H., TANYRALLT, ABERGELE. Yr hwn a fu farw nob Sabboth, Hydref y 3ydd, 1886, yn yr 81ain flwydd o'i OEDRAN. A draddodwyd yn Abergele y nos Sabboth dilynol. GAN Y PAECH. FEANCIS JONES. Psalm lxxi. 17, 18: " O'm hieuenctyd y'ni dysgaist, 0 Dduw: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau. Na wrthod fi chwaith, O Dduw, mewn henaint a phen- llwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i'r genedlaeth hon, a'th gadernid i bob un a ddelo." Pa faint bynag o fantais tuag at ddeall ac iawn ddefnyddio geiriau ydyw hysbysrwydd am eu hawdwr a'r ach- lysur o honynt, y mae y wybodaeth am y naill a'r llall ynglŷn â'r Salm hon yn guddiedig oddiwrthym. Ym- rana yr esbonwyr sydd wedi talu sylw i'r cwestiwn hwn, yn ddau ddosbarth. Tybia un blaid, a'r blaid liosocaf hyd yn ddiweddar, yr un modd ag awdwr y crynodeb a roddir o gynnwysiad y Salm yn ei dechre, mai Dafydd yw ei hawdwr: ac fel prawf o hyny dadl- euir y tebygrwydd sydd yn y medd- yliau i'r eiddo Dafydd; y cyfatebol- rwydd sydd yn y cyfeiriadau hanes- yddol i amgylchiadau ei fywyd ef; ac yn enwedig y traddodiad maith sydd wedi bod yn yr eglwys Iuddewig o oes i oes i'r ystyr hwnw. Ar gyfer hynyna, priodola eraill diweddarach, ao hwyrach galluocach, ei hawdur- iaeth i'r prophwyd Jeremiah. Gwel- ant hwy fwy o debygrwydd yn y meddyliau i'r eiddo y prophwyd pruddaidd ond zelog hwnw, nag i'r eiddo neb arall. Ystyriant y chweched adnod—"wrthyt ti y'm cynnaliwyd o'r bru," &c,—yn ail-adroddiad o Jer. i. 5; ac fod y geiriau dilynol—" oeddwn i lawer megys yn rhyfeddod"—yn oyfeirio at deimlad ei gydgenedl at Jeremiah pan y safai yn unig yn eu hwyneb, i'w perswadic i ymostwng yn hytrach nag ymryson â'r Caldeaid; ac yn enwedig pan y sicrhâi hwy eu bod i fyned i gaethiwed, ac ar yr un pryd y prynai ei hunan faes ei berthyn- as Hanameel yn Anathoth, fel pe na buasai y fath beth a chaethgludiad yn bosibl. Sicrhânt ni hefyd fod dyfyn- iadau yn y Salm hon o Salmau eraill a ysgrifenwyd yn ddiammheuol ar ol dyddiau Dafydd. Os felly, y mae yn rhaid mai rhywun diweddarach na'r Salmydd breninol ydyw yr awdwr. Modd bynag, y mae yn amlwg oddi- wrth y geiriau, "na fwrw fi ymaith yn amser henaint, na wrthod fi pan Dallo fy nerth;" "na wrthod fi chwaith, O Dduw, mewn henaint a phenllwydni," fod y Salmydd hwn, gan nad pwy ydoedd, ar y pryd mewn amlder dyddiau. Tybia y rhai sydd yn priodoli y Salm i Dafydd, iddo ei chyfansoddi pan y fioai am ei einioes rhag Absalom ei fab ; neu yn ddiwedd- arach na hyny, yn adeg gwrthryfel Seba mab Bichri, tua thair neu bedair blynedd cyn ei farw. A thybia y rhai sydd yn ei phriodoli i Jeremiah, iddo ef ei chyfansoddi yn ei hen ddyddiau yn ngwìad yr Aipht, lle y dygasid ef iddo o'i anfodd gan yr Iuddewon hyny 2 L