Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSOEFA. Rhif. 671.] MEDI, 1886. [Llyfr LVI. AT EIN DARLLENWYR. Hysbyswyd i ddarllenwyr y Drysor- fa, yn y rhifyn diweddaf, nnewn geir. iau tra phriodol a theimladwy, am farwolaeth y Golygydd, yr hybarch Mr. Edwards o'r Wyddgrug. Cyfarfu Pwyllgor y Llyfrau yn yr Amwythig ddydd Llun, Awst 9fed, i ystyried pa beth i'w wneyd, yn wyneb y golled fawr hon, gyda golwg ar ddygiad ym- laen y Drysorfa yn y dyfodol. Ar ol ystyriaeth faith a phwyllog, pasiwyd y penderfyniadau canlynol:— " 1. Ein bod yn dymuno ar y Parch. Dr. Hughes anfon llythyr o gydym- deimlad ar ran y Pwyllgor at deulu y diweddar Barch. Roger Edwards, i gydnabod ei lafur maith a diflino fel Golygydd y Drysorfa am yr ysbaid o ddeugain mlynedd. "2. Nas gallwn, fel Pwyllgor, gy- meryd arnom ein hunain y cyfrifoldeb o apwyntio neb yn Olygydd y Drys- orfa, ond ein bod yn gadael hyny yn gwbl i'r Gymanfa GyfFredinol. "3. Ein bod yn barnu y byddai i ni apwyntio neb y tu allan i'r Pwyllgor i fod yn Olygydd o hyn hyd y Gym- anfa Gyffredinol nesaf yn debygol o osod y Gymanfa mewn anfantais i ddewis neb arall yn Olygydd arosol, heb ddangos anmharch tuag at y brawd a ddewisasid gan y Pwyllgor; ac, o herwydd hyny, mai gwell fydd i'r Pwyllgor ei hun arolygu y cyhoedd- iad hyd Gymanfa Liverpool, gan ei bod yn ddealledig na bydd neb o aelodau y Pwyllgor yn ymgeisydd am y swydd. "4. Ein bod yn barnu y dylai y Pwyllgor gyfarfod eto, yn y cyfamser, i ystyried a oes unrhyw gyfnewidiadau yn anghenrheidiol neu welliantau yn ddichonadwy yn y Drysorfa, i'w gwneyd yn fwy dylanwadol ac yn fwy defnyddiol i'r Cyfundeb, ac i helaethu ei chylchrediad. "5. Fod pob gohebiaeth a fwriedir i'r Drysorfa i'w anfon ar hyn o bryd i ofal Ysgrifenydd y Pwyllgor, a'i gyf- eirio, ' To the Rev. J. M. Jones, Wordsworth Street, Cardiff.' Hydera y Pwyllgor y bydd y pen- derfyniadau uchod, dau yr amgylch- iadau, yn unol â barn y Cyfundeb. Teimlant eu bod yn anturio ar orchwyl anhawdd iawn wrth ymgymeryd â dwyn allan y cyhoeddiad am y mis- oedd dyfodol ar ol y fath Olygydd profiadol a medrus. Ar un olwg, buasai y gwaith o apwyntio Golyg- ydd yn haws na'r gwaith o olygu. Yr anhawsder fuasai dewis rhwng cynifer o frodyr cymhwys. Ond os yw y gwaith yn fwy, y mae y cyfrifoldeb yn llai. Ni buasai dim yn cymhell y Pwyllgor i osod eu hunain o dan gymaint o gyfrifoldeb ond awydd i sicrhâu i'r Gymanfa Gyffredinol y dewisiad mwyaf rhydd a mwyaf bodd- häol ymhob ystyr o olynydd i ŵr a safai mor uchel yn meddyliau ei frodyr. Dymuna y Pwyllgor ofyn yn 2 B