Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DEYSOEFA. Rhip. 573.] GORPHENAF, 1878. [Llyfe XLVIII. DYSGEIDIAETH YR YSGOL' SABBOTHOL, A'R CYMHWYSDER GOFYNOL YN Y DEILIAID FW CHYRHAEDD. PllEGETH A DEADDODWYD MEWN CYFAEFOD BLYNYDDOL YsGOLION SABBOTHOL Gwaelod Sm Drefaldwyn, yn y flwyddyn 1875. GAN Y PARCH. ROBERT DAVIES, AMWYTHIG. Ioan vii. 16, 17: "A'r lesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Fy nysgeidiaeth nid eiddof fi yw, eithr eiddo yr Hwn a'm hanfonodd i. Os ewyllysia neb wnenthur ei ewyllys ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae hi, ai myfi o honof fy hun sydd yn llefaru." (Parhâcl o tu dal. 209.) Sylwir oddiwrth y geiriau yn yr ail le, ar II. Y GYMHWYSDER GOFYNOL YN NEILIAID YR YSGOL SABBOTHOL I GYR- HAEDD Y DDYSGEIDIAETH HON. "Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys Ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeìd- iaeth," &c Gan fod dysgeidiaeth Crist, yr hon hefyd sydd yn ffurfio dysgeidiaeth yr Ysgol Sabbothol, yn Ddwyfol ac nld dynol o ran ei tharddiad a'i sylwedd, gallesid dysgwyl y buasai y cymhwys- der gofynol i'w chyrhaedd yn meddu cyfaddasder neu gyfatebiaeth i'w natur ei hunan. Nid oedd Crist yn ysgolaig yn ol ystyr yr Iuddewon, neu ystyr y byd hwn; ac ni buasai y cymhwys- der y mae hyny yn ei olygu yn un fantais iddo ychwalth I fynegu cenad-1 wri oddlwrth Dduw. Yr un modd, j gellir dyweyd, o drugaredd, mai nid 1 meithriniad mewn ysgolion dynol I sydd yn ofynol i ddirnadaeth gred- iniol o ddysgeidiaeth Crist; nid am fod dysgeidiaeth ddynol o anghenrheid- rwydd yn groes i ddysgeidiaeth Ddwyf- ol, ond am nad ydynt o gwbl yn gor- wedd yn yr un cylch o fodolaeth, ac o ganlyniad nad ydynt i'w cymhara â'u gllydd. Y maent yn sefyll yn wrthgyferbyniol, ac nid ydynt yn dyfod i gyffyrddiad â'u gilydd; fel y gellir dyweyd, nid yn unig nad yw y meithriniad a geir mewn ysgolion dyn- ol yn un fantais i ddirnadaeth o'r ddysg- eidiaeth hon, ond hefyd nid ydyw di- ffyg o'r meithriniad hwnw yn fántaìs ychwaith, oddigerth fod rhywbeth yn y meithriniad hwnw o natur foesol, ac yn rhedeg yn groes I'r ddysgeidlaeth hon. Ac o herwydd mai nid yr un cy- mhwysder sydd yn ofynol I gyrhaedd y ddysgeidiaeth hon ag sydd yn ofynol 1 gyrhaedd dysgeìdiaeth ddynol, y mae genym lawer o ymadroddion yn y Bibl sydd yn ein taro fel yn groes i ym- ddangoalad cyffredin pethau, megys fod tystiolaeth yr Arglwydd yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth. Y mae y rhai ffol yn dyfod yn ddoethion, a'r rhai doeth- ion yn fynych yn cael eu gwaradwyddo. Y mae pob dysgeidiaeth yn rhag- dybied rhyw allu neu gynneddf b3nod- ol mewn dyn, trwy yr hyn y mae yn abl i wneyä y ddysgeidiaeth hono yn elddo iddo ei hun. Y mae rhifyddlaeth a changenau o'r fath yn rhagdybled deall a rheswm cryf, tra y mae bardd- oniaeth, arluniaeth, a'r cyfíelyb, yn