Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X ÜHYSOIIFA. Rhif. 572.] . MEHEFIN, 1878. [Llyfr XLVIII. DYSGEIDIAETH YR YSGOL SABBOTHOL, A'R CYMHWYSDER GOFYNOL YN Y DEILIAID I'W CHYRHAEDD. PEEGETH A DEADDODWYD MF.WS CyFAEFOD EjLYNYDDOL YsGOLION SaEBOTHOL Gwaelod Sir Deefaldwyx, yn y flwyddyn 1875. GAN Y PARCH. ROBERT DAYIES, AMWYTHIG. Ioan vii. 16, 17: "A'r lesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Fy nysgeidiaeth nid eiddof fì yw, eithr eiddo yr Hwn a'm hanfonodd i. Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a gaiíf wybod ani y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae hi, ai myfi o honof fy hun sydd yn llefaru." Y peth pwysicaf o ddigon i'w gadw mewn golwg ynglŷn â'r Ysgol Sabboth- ol yw natur uchel ei dysgeidiaeth. Ein perygl yn barhâus yw anghofio ei ham- can mawr, a myned i edrych arnt fel sefydliad i gyrhaedd amcanion îs. Un amcan .mawr sydd iddi; ac nid yw yr holl bethau eraill y mae hi yn eu cyf- lawni ond y moddion a ddefnyddir ganddi ar ei ffordd i gyrhaedd yr un amcan hwnw. Y mae yn wir ei bod hi yn dysgu yr anfedrus i ddarllen; ond nid hyny yw ei phrif amcan: y mae yn wir ei bod hi yn cynnorthwyo ei deil- iaid i gyrhaedd elfenau gwybodaeth gyffredinol, megys hanesyddiaeth a dae- aryddiaeth gwahanol wledydd a gwa- hanol amseroedd ar y byd, ynghyd a changenau eraill o wybodaeth; ond nid hyn yw ei chenadwri benodol tuag at y byd. Y mae yn wir ei bod yn dysgu duwinyddiaeth i'w deiliaid, ac yn eu hyfforddi mewn moes a gwareiddiad; ond nid ydyw yn gorphwys ar hyn ychwaith. Nid yr un o'r pethau hyn, na'r oll gyda'u gilydd, sydd yn gwneyd i fyny amcan yr Ysgol Sabbothol. Wrth gyflawni y pethau hyn, nid yw ond yn gwneyd ei gwaith parotöol i'w íhrif amcan, sef y gwaith hwnw o'i heiddo ag sydd yn cyfateb i oruchwyl- iaeth Ioan Fedyddiwr yn el pherthynas â goruchwyliaeth uwch. Efe oedd " lef un yn llefain yn y diffeithwch, Parot- owch ffordd yr Arglwydd; gwnewch yn uniawn ei lwybrau ef. Pob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a os- tyngir, a'r gŵyrgeimion a wneir yn un- iawn, a'r geirwon yn ffyrdd gwastad." Yn gyffelyb y gellir dyweyd am yr Ys- gol Sabbothol, fod pantiau anwybodaeth yn cael eu llenwi, a mynyddau a bryn- iau o dywyllwch a rhagfarn yn cael eu darostwng ganddi, a llawer o syniadau gwyrgam y ddynoliaeth am Dduw a phethau ysbrydol yn cael eu gwneyd yn uniawn ganddi; ac y mae hi yn gwneyd ffyrdd geirwon anfoesoldeb mewn cymdeithas yn wastad. Ond wrth wneuthur yr holl bethau hyn, nid yw ond yn gwneyd ei gwaith parotöol i gyrhaedd ei hamcan mawr ; a'r amcan hwnw ydyw arwain a dysgu ei deiliaid i ddyfod i afael â oywyd ysbrydol a thra- gywyddol. Nid rhoddi syniadau yn unig yn mhen y deiliaid am Dduw a phethau crefydd yw ei hamcan penaf, ond eu cyfarwyddo i ddyfod i afael â gwirionedd a bywyd crefydd. Y mae hi yn gwneyd ychwaneg na gwaith