Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSORFA. Rhif. CGLV.] MAWBTH, 1868. [Llyfr xxn. MANTEISION GW?BODAETH. GAN Y PAECH. JOHN PUGH, B.A., LLANFECHAN. PENNOD I. Mawr yw manteision gwybodaeth. Hy- nod fel y mae graddau o honi, os bydd o'r iawn íath, yn effeithio ar ddyn er ei drefnu, ei gymhwyso, a'i gyflenwi. Ceir cyfle weithiau i sylwi ar lysieuyn neill- duol yn tyfu yn wyllt ar y maes, neu yn yr anialwch, ac i edrych drachefn ar yr un fath lysieuyn dan driniaeth yn tyfu mewn gardd gauedig; ac y mae y gwahaniaeth rhyngddynt mor fawr fel mai prin y gellid credu fod y ddau o'r un rhyw. Mae yr un sydd wedi ei drîn a'i drwsio yn tra rhagori mewn tlysni a defnyddioldeb. Mae addysg a diwyll- iant yn cynnyrchu y cyffelyb wahan- iaeth ymysg dynion. Dywedìr y byddai yn arferiad yn Vienna, os gwelid rhyw gardotyn yn crwydro ar hyd yr ystryd- oedd, fod y swyddogion yn ymaflyd ynddo, ac yn ei ddwyn yn ddioed i sefydliad addysg perthynol i'r ddinas. A dy wedir ymhellach fod ei garpiau, ar y diwrnod y deuai i mewn, yn cael eu dyosg oddiam dano a'u gosod i gadw mewn man penodol hyd y dydd y byddai yn gadael y sefydliad, ac ar y diwrnod hwnw, byddai yr hen ddill- ad yn cael eu dwyn ymlaen, er mwyn iddo gael gweled pa beth a wnaeth y sefydliad drosto. Yr oedd hwn yn ddull effeithiol iawn er dangos gwerth addysg. Mae meddwl dyn, tra yn an- wybodus, yn gyffelyb i gardotyn yn ei garpiau; ond mawr yw y gwahaniaeth a welir ynddo pan y mae mewn gwahanol ffyrdd wedi cyrhaedd graddau o wybod- aeth ddefnyddioL Mae gwybodaeth yn arwyddo syniad- au cywir am y pethau sydd o fewn ein cyrhaedd. Mae rhai i'w cael nad ydynt erioed wedi ceisio deall dim tu hwnt i'r hyn y maent o anghenrheid- rwydd yn ei weled bob dydd, neu yn clywed am dano yn eu cymdeithas â'u cyd-ddynion. Mae y dosbarth hwn yn anwybodus. Mae eraill i'w cael, pa rai sydd yn meddu dirnadaeth am íawer o bethau, ond, gan eu bod wedi cael hyn trwy gyfrwng ffug a thraddodiad yn unig, mae llawer o'u syniadau yn gam- syniol a chyfeiliornus. Mae y dosbarth hwn gan byny heb wybodaeth. Ond cyfarfyddir weithiau âg eraill, pa rai, er na chawsant erioed nemawr o fanteis- ion, eto trwy arfer ysbryd barn, a thrwy ymroddi i lafur parhäus, ydynt wedi cyrhaedd mesur helaeth o'r cyfry w wyb- odaeth ag sydd yn addurn iddynt eu hunain, ac yn fendith i'w hoes a'u cenedl. Mae cylch gwybodaeth yn ëang iawn. Mae yn cymeryd i mewn y pethau a fu a'r pethau sydd; pethau y nefoedd a phethau y ddaear; y pethau am Dduw a'r pethau am ddynion; pethau natur a phethau Dadguddiad. Dyna y fath wybodaeth sydd genym mewn golwg, sef yr hon sydd yn cyf- addasu dyn i ateb holl ddybenion ei fodolaeth am amser a thragywyddoldebî Yr ydys yn golygu cydnabyddiaetli brîodol â'r pethau neu y gwrthddrychau sydd yn diwyllio y galon, yn gystal a chynnefindra â'r ffeithiau defnyddiol mewn hanesiaeth, naturiaeth, ae athron- iaeth. Ceisir dangos manteision gwybodaeth yn y dull canlynol:—-ei manteision mewn ystyr naturiol neu anianyddol— mewn ystyr gymdeithaaol—ac mewn