Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSORFA. Rhip. COXLVIII.] AWST, 1867. [Llyfb XXI. GALLU YMOSODOL A NAWSEIDDIOL CREFYDD YR EFENGYL. GAN Y PARCH. JOHN DAYIES, WOODSTOCE. Ni ddaeth Cristionogaeth, mwy na'i Sylfaenydd, i'r byd i ddystrywio ond i gyflawni—cyflawni pob peth y mae Crist yn yr efengyl yn ei wneuthur. Gallwn, mae yn debyg, ddal hyn fel gwirionedd hollol a chyffredinol, gyda'r eithriad o bechod a'i effeithiau. Ni wnai Mab Duw ddinystrio un gallu ; dattod gweithredoedd y diafol a wnaeth ac a wna, ac nid eu tòri; dadwneyd y dyryswch a wnaetb y diafol a wna Efe, tynu y cylymau yn rhydd; nid yw yn dinystrio dim ond gwaith y diatol ar y gwrthddrychau hyn. Felly y mae yn natur yr efengyl ennill pob gallu yn allu iddi ei hun, ac at ei gwasanaeth ei hun. Ymosod ar ein byd ni a wnaeth Duw er ei gadw. Nid an- fon i'r nefoedd am Geidwad a wnaeth teulu y ddaear ; eithr Duw a ddanfon- odd ei Fab i'r byd. Ac nid y sarph a gyhoeddodd ryfel â Had y wraig, ond Duw a ddywedodd, "Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti â'r wraig, a rhwng dy had di a'i Had hithau, &c." Ac yn unol â'r egwyddor hon, y mae crefydd Mab Duw wedi ac yn myned ymlaen ymhob oes a phob gwlad. O bechadur y gwna efe bob sant. Nid oedd ganddo un rnilwr ar ein daear ni ond a ennillai oddiar y gelyn. Cofus yw genym ddarllen am Oaribaldi, yn un o'i ryfeloedd yn Ainerica, nad oedd ganddo ond yn unig un lestr fechan yn ei feddiant, pan oedd gan ei elyn lawer o rai mawrion a chedyrn. Eto, gan fod enw a diogelwch y gwron enwog hwn yn ymddibynu ar iddo gael meddiant ar ryw lestri amgen nag a feddai ar y pryd, penderfynodd wneuthur ymos- odiad ar y gelyn liw nos gyda'i lestr fechan; a dychrynodd ei elyn i'r fath raddau nes yr ennillodd Garibaldi am- ryw o lestri mawrion ei wrthwynebydd at ei wasanaeth ei hun. Yn gyffelyb v. gorfu i íesu Grist wneyd, er sefydlu ei deyrnas yn y byd, gyda hyny o wahan- iaeth, nad oedd ganddo Ef gymaint âg un lestr fechan yn ngwlad y gelyn i ddechreu ymosod arno—ennül y cwbl a wnaeth Efe. Rhaid fu iddo rwymo y cadarn cyn cael un darn o'i arfogaeth at ei wasanaeth ei hun. • Yn awr, ymdrechwn ddwyn ger bron y darllenydd ychydig ystyriaethau, er dangos, yn gyntaf, yr egwyddor gry- bwylledig felgwirionedd yn gyffredinol; ac wedi hyny fel gwirionedd ag y dylem ni fel enwad o Gristionogion yn yr oes hon ymdrechu ei ddwyn allan, yn unol âg esiampl Duw yn yr efengyL Ceisiwn ddangos ymlaenaf fod y gallu ' ymosodol a nawseiddiol, neu gymmath- 1 ol (aggressive and assimilating power) yn nodwedd neillduol o eiddo yr efengyl fel crefydd. Gellir dangos hyn trwy dystiolaethau Gair Duw, trwy ystyried natur y bywyd a gyfrenir i'r credadyn, athrwy ddwyn ger bron ffeithiau hanesyddoL Am y cyntaf o'r profìon hyn, digon ar hyn o bryd yw dywedyd fod pob addewid am lwyddiant yr efengyl, a thystiolaeth am natur yr efengyl, sydd yn y Bibl, mae yn debyg, o'r addewid gyntaf yn Eden hyd yr olaf yn y Dad- guddiad, yn arddangos hyn i raddau mwy neu lai. Ymofyned y darllenydd a ydy w y pethau hyn felly. Edrychwn yn nesaf ar natur y bywyd a gyfrenir gan yr efengyl tuag at egluro y mater dan sylw. " Cyffelyb," medd Crist, "yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ec a'i cudd-