Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhip. CCXLI.] IOtfAWR, 1867. [Llyfr XXI. PROPHWYDOLIAETH A'R FLWYDDYN 1866. GAN Y PARCH. D. CHARLES, B.A., ABERCARN. Mae y flwyddyn 1866 wedi rnyned heibio, a'i helyntion cenedlaethohgwlad- ol, cymdeithasol, ac eglwysig. Dys- gwyliasid llawer wrthi—prophwydasid llawer am dani—edrychasid arni gan fìloedd fel dechreuad cyfnod arbenig yn hanes y byd ac eglwys Crist; ond y mae yn awr wedi ei rhifo gyda'i chwiorydd o'i blaen, a chymeryd ei safle yn nghyf- res y gorphenol. Ac er fod pethau tra phwysig a hynod wedi cymeryd lle yn ystod ei thymmor, eto nid yw y pro- phwydoliaethau am dani, mae'n rhaid addef, wedi eu cyflawni, na'r dysgwyl- iadau a goleddasid gan laweroedd, wedi eu hateb. Mae y rhyfel a dòrodd allan mor ddisymwth ar y Cyfandir, ac a barhäodd mor fỳr, gan gyfnewid cys- ylltiadau gwladol a chymdeithasol Ger- many bron yn llwyr, a rhyddhâu Venice o'i chadwynau caethion a'i beichiau gor- mesol, a'i phriodi, yn ol gwir ddymuniad a hiraeth ei chalon, âg Italy, yn sicr yn un oliynodion y fl. 1866. Y mae, heb- law hyn, ymddangosiad pla yr anit'eil- iaid, a'r cholera—y toriadau masnach- yddol anferth a Uiosog—y cynauaf afrywiog, ynghyd a'r cynhyrfiadau Diw- ygiadol yn Mhrydain, a'r rhwysg rhy- feddol ag y mae ysbryd Defodaeth a Phabyddiaeth wedi ei ddangos yn ein gwlad, heb son am anffodion gwledydd pelleuig o'r byd, megys y newyn tost yn yr índia, trwy ba un y trengodd dros ddwy filiwn o'n eyd-ddynion, &c, yn peri fod 1866 yn flwyddyn i'w cho'fìo ymysg blynyddau amser. Mae barned- igaethau yr Arglwydd yn amlwg wedi bod ar y ddaear, fel y byddai i breswyl- wyr y byd ddysgu cyfíawnder. Ond y mae hyn oll yn gwbl wahanol i'r hyn a ddysgwyliasid gan laweroedd. Yr ydym yn cofìo, er pan oeddym yn bur ieuanc, fod y fl. 1866 yn cael ei dynodi fel y cyfnod yniha un yr ym- ddangosai y Mil Blynyddoedd, a mawr oedd ein hawydd a'n gobaith y byddem fyw i weled yr amser hyt'ryd a dedwydd hwnw. Ac yr oedd llawer o ysgrit'euu a siarad yn bod o barth i hyn trwy y blynyddoedd ;—rhai yn dysgwyl tyw- alltiad mawr o'r Ysbryd ar bol) cuawd y pryd hwnw ; eraill yn dysgwyl yn hyderus am ddadymchweliad Pabydd- iaeth a Mahometaniaeth, yndiyd a dychweliad y genedl Iuddewig i'w gwlad ei hun ; ac eraill eto (a'u nit'er yn ll'iosogi bob blwyddyu) yn edrych yn bryderus am ymddangosiad personol yr Arglwydd Iesu Grist ar gymylau y nef, adgytodiad y saint a fuont feirw, a chyf- newidiad disymwth y rhai byw, fel amgylchiadau rhagarweiniol i deyrnas- iad personol y Gwaredwr ar y ddaear. Er hyny, nid oes dim o hyn oll wedi cymeryd lle. Yn hytrach nag ym- ddangosiad y Milílwyddiant, canfyddir y byd drwg ymha un yr ydym yn byw hyd heddyw "wedi ei ddarostwng i oferedd," ac yn " nghaethiwed Dygred- igaeth," yn llawn tert'ysg, gorthrymder, a didduwiaeth ; a chrefydd bur a dihal- ogedig yn cael ei diystyru, ei chamddar- lunio, ei rhithlunio, a'i mathru dan draed ; Anffyddiaeth ar y naill law, a Phabyddiaeth a Defodaeth ar y llaw arall, yn rhwysg rodio yn hyf a digy- wilydd ymysg plant dynion, gan lithio niferi lliosog ar eu hol. Na, na! uid y tymmor hwnw yw hi eto, pryd y bydd "Sancteiddrwydd i'r Arglwydd ar ffrwynau y meirch," a'r "ddaear yn llawn o wybodaeth yr Arglwydd fel y mae y dyfroedd yn töi y môr." Y casgl-