Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DiìYÖORB'A. RHIF. CCXL.] RHAGF7R, 1866. [Llyfr XX. fattboDau ac &ÌJxaWmhzvi. CYDWEITHREDIAD CRISTIONOGOL. GAN Y PARCH. JOHN OWEN, TY'NLLWYN, ARFON. Un o effeithiau mwyaf naturiol a dilys undeb y saint â Christ ac a u gilydd, y w cydweithrediad. Undeb bywiul ydyw, ac y niae y bywyd sydd tu cei'n iddo yu peri gweithgarwch. Undeb yn codi oddiar gariad ydyw, ac y mae hyny yn dwyn y rhai sydd ynddo i gydweithio. Dywödir het'yd am y saint eu bod yn blant y goleuni. Dygwyd hwy i iawn adnabod gwrthddrychau. Ttiedda hyny yn gryt' i'w deffro i weithio. Trwy ddylanwad y goleuni y dygwyd hwy iddo ar eu meddyliau, maent yn ad- nabod Duw, nes yiugysegru i'w wasan- aethu ; maent yn adnabod pechod nes ynidrechu yn ei erbyn ; maent yn gwel- ed y pwysigrwydd sydd mewn bod yn gadwedig nes ymdrechu, nid yn unig am t'yned i mewn i'r bywyd eu hunain, ond "gan rybuddio pob dyn, a dysgu pob dyn ymhob doethineb,fel y cyflwyn- ont bob dyn yn berffaith yn Nghrist Iesu." Mae awydd am achub y byd yn han- fodol i wir grefydd. Mae gwir gy t'new- idiad yn hyn yn dyfod yn amìwg i'r golwg yn y wraig o Samaria. Nid uedd ei rhyw, ei sefyllfa, na'i chymeriad blaenurul, yn ddigon i rwystro i'w had- nabyddiaeth o'r Messiatí beri awydd ynddi i ddwyn eraill i'w adnabod. Ac y mae tebygolrwydd y saint i'w gilydd yn y cyfnewidiad mawr yr aethant trwyddo yn achosi eu bod yn debyg i'w gilydd hetyd yn un o effeithiau mwyaf arbenig y cyfnewidiad hwnw. Y rhwystr penaf i gydweithrediad Cristiunogion efengylaidd ydyw y rwymedigaeth bersonol a deimìant i gymeryd eu dysgu yn ngair Duw beth i'w gredu a'i ymarfer. Dyma bwnc mawr y Diwygwyr Profcestanaidd, fod dyn i ddysgu ei grefydd o'r Bibl. Adroddir am yr hen gristion dysyml, ond nodedig, a elwid Abraham o'r Ceunant, mai ei ymofyniad gwastadol mewn amgylchiad o betrusder a fyddai, " Beth y mae Gair y Gŵr yn ei ddyweyd ?" Mae gan Babyddiaeth fantais fawr ar Brotestaniaeth i alluogi y rhai a'i pro- ffesant i wneyd dangosiad o undeb. Caiff yr "eglwys" farnu ymhub peth trostynt; gosodant yreglwysrhyngddynt â'r Bibl, a thrwy hyny lüthrant yn hawdd iawn i feddwl fel eu gilydd ar wirioneddau crefydd; ac nid yn unig hyny, ond dygant gyhuddiad a ystyriant o'r pwysigrwydd inwyaf yn erbyu Pro- testaniaeth am y diffyg o hyn. Yt ydym dan anfantais hefyd i synied yr un peth am wirioneddau y' Bibl ar gyfrif anmherffeithrwydd a ffaeledigaeth' y natur ddynol, hyd yn nôd mewn duw- iolion. Cyfyd hyn oddiar ddiffyg ymröad i chwilio y gwirionedd, a'r diffyg o dduw- iolfrydedd yn yr ysbryd. Y diffyg olaf hwn a fu y prif achos i ddynion da y gwahanol oesoedd fethu cydweled a chydweithio. Ond y mae yr anhawsder hwn i gydweithrediad Cristionogol, sydd yn codi oddiar deimlad o rwymedigaeth bersonol i chwilio y Bibl beth i'w gredu a'i wneyd, yn annhraethol lai o niwed i grefydd nag a fyddai ymwrthodiad â'r rwymedigaeth hon. Ac o ddau ddrwg, goreu y lleiaf. Cyfranogi yn helaeth o ysbryd Cristionogaeth yw y moddion