Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. CCVI.] CHWEFROR, 1864. [Llyfr XVIII. ^mtjpbm DUWIOLDEB A DEFNYDDIOLDEB. GAN Y PARCH. DAYID CHARLES DAYIES. M.A. PENNOD I. CYFUNIAD Y PRYDFERTH a'r DEFNYDDIOL. — derbyn y freniniaeth er adfedd- ìannu pob prydferthwch—Gogoniant prydferthwch yn ei ddarostyngiad i wasanaeth Crist—Pryd- ferthwch defosiwn a gweithgarwch defnyddiol i'w canfod weithiau ar wahân—Undeb perffaith prydferthwch a defnyddioldeb yn Nghrist Iesu—Rhai o'i ddilynwyr yn rhanu ei fywyd yn lle ei gymeryd yn ei wedd amlochrog—Tyb am Grist yn awr mewn cyfarfodydd gweddiau ac mewn cyfarfodydd Uenyddol—Hunanymwadiad yn eisieu er ymdebygu iddo Ef niewn defosiwn ac mewn defnyddioldeb. Ar y 26ain o Hydref diweddaf, yr oedd Mr. Gladstone yn Burslem, Swydd Stafford, yn traddodi araeth ar achlysur sylfaeniad adeilad er coffadwriaeth am Josiah Wedgwood. Ymlüith sylwadau eraill, fe wnaeth y rhai canlynol: " Y mae tri dosbarth o bethau wedi eu rhoddi i ddyn, er mwyn iddo wneuthur tuag atynt a thrwyddynt yr hyn a fyddai yn wasanaethgar i wareiddiad ac i amcan cyffredin bywyd. Un yw dosbarth y pethau defnyddiol. Y mae gwrthddrychau yn ddefnyddiol pan y maent yn cyflenwi rhyw anghen neill- duol sydd ar ddyn. Yr ail yw cylch meddwl pur, yr hwn sydd yn cynnwys barddoniaeth a'r celfyddydau uchaf. Yr unig amcan yn y dosbarth hwn yw cynnyrchu yr hyn sydd brydferth. Yn y doabarthiadau hyn y mae cenedl y Saeson yn rhagori ar genedloedd eraiÜ y byd. Yn ei gallu i wneuthur pethau o ddefnydd cyffredin, hi yw y flaenaf. Er fod yn rhaid iddi sefyll yn ail yn y gelfyddyd o arlunio, eto mewn bardd- oniaeth, yr hon sydd gelfyddyd uwch o ran natur nag arluniaeth, fe all herio yr holl wledydd Cristionogol; ac Itali yn unig a elllr ei chystadlu â gwlad Shaks- peare. Ond, er ei bod yn rhagori ar bob gwlad yn y gweithiau sydd yn dango3 prydferthwch yn unig, a defn- yddioldeb yn unig, y mae islaw gwled- ydd eraill mewn gweithiau sydd yn cynnwys cyfuniad y ddau nodwedd. Yn ei lafur a'i lwyddiant i uno y ddau niewn llestri pridd (earíhenware) yr enwogodd Josiah Wedgwood ei hun. Y blys ag sydd yn dallu y meddwl yn benaf i werthfawrogi prydferthwch yw y blys am aur ac arian." (Nid yw y cyfieithiad uchod yn llythyrenol, ond y mae yn cynnwys meddwl y darüthydd.) Y mae y sylwadau hyn o eiddo Gladstone yn cynnwys ffeithiau synìl; ond fel testun yr erthygl hon y maent yn cynnwys dammeg am lestri pridd mwy coethedig nag yr oedd efe, y mae yn debyg, yn meddwl am danynt ar y pryd. Yr hyn y mae gair Duw yn ei alw gydag arbenigrwydd yn hardd- wch, yw "harddwch sancteiddrwydd."