Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIIYSOEFA. Rhif. LXXIV.J CHWEFROR, 1853. [Llyfr VII. (Erartjjata a (^njirlníirfljati. GORUCHAFIAETH FFYDD AR Y BYD. 1 Ioan v. 4 : " A hon yw yr oruchafiaeth sydd yn gorchfygu y byd, sef ein ffydd ni." Y mae goruchafiaeth yn cynwys ym- drech rhwng pleidiau gwrthwynebol i'w gilydd, ac hefyd buddugoliaeth y naill blaid ar y blaid arall. Gall fod y fuddugoliaeth mewn rhan, neu yn gwbl, fel y byddo amgylchiadau a sef- yllfa y gwahanol bleidiau yn parhâu. Gall hefyd fod yn fuddugoliaeth sicr, er na fydd wedi ei pherffaith gwblhâu. Y pleidiau dan ein sylw presenol yw gwir ffydd yn y saint, a'r byd hwn yn ei wrthdarawiad a'i wrthwynebiad i Grist a'r Efengyl. Y mae yma gryfder o'r ddau tu, ac eithaf gwrthwynebiad mewn egwyddorion ac ymdrech. Beth bynag fyddo dull yr ymladdfa,a pharhâd y rhyfel, gellir sicrhâu na fydd yma ddim heddwch, nes y byddo y naill blaid wedi perffaith orchfygu y llall; a gellir dywedyd hefyd yn ddibetrus pa blaid fydd hono. Un o brif nodau credinwyr yw, "yr hwn syddyn gorch- fygu." Ac mewn cysylltiad â hyn y mae Ú'iaws o'r addewidion melusaf a mwyaf eu gwerth, wedi eu rhoddi iddynt gan Grist, fel eu Pen a'u Harweinydd. " I'r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o'r manna cuddiedig, ac a roddaf iddo gâreg wen, ac ar y gàreg enw newydd wedi ei ysgrifenu." Caiff hwn hefyd "fwyta o bren y bywyd, ac ni chaift' niwed gan yr ail farwolaeth." " Yr hwn sydd yn gorchfygu a etifedda bob peth." Y rhai sydd yn gorchfygu a wneir oll "yn golofnau yn nheml Dduw," ac enwau aurhydeddus eu goruchaf- iaeth wedi eu hysgrifenu arnynt; "ac allan nid ânt mwyach." Y mae gau y saint lawer o elynion Cyfres Newydd. i'w gorchfygu, a llawer brwydr galcd i'w hymladd ; ond y mae eu bywyd oll wedi ei ddiogelu. " Ni chyfrgollant hwy byth." Eto nid wedi ei ddiogelu, fel bywyd y saint yn y nefoedd, lle nad oes na gelyn na saeth byth i'w cyr- haedd,ond trwy undeb personol â Christ, fel gorchfygwr a blaenor, yn eu cynal yn fyw, yn ddiogel a chysurus, mewn rhyfel barhâus hyd oni orphener, a diogelwch eu bywyd yn gorphwys ar orchfygu yn gymaint ag ar eu hundeb â'r Pen. Y prif elyn i sylwi arno yma yw y byd. Ar ryw olygiad, hwn yw gelyn mawr y saint, a'r ymosodwr pen- af ar eu ffydd. Trwy hwn y mae Satan ac anghrediniaeth yn cael cynifer o fiỳrdd i ymosod arnynt wi'th geisio eu dyfetha. Wrth "y byd" yr ydym yn deall, nid yn unig dynion y byä mewn gwrthryfel yn erbyn Duw, ond hefyd pob peth sydd yn y byd, yn ei chwantau, ei fiurf- iau, a'i ffyrdd, fel y mae dan ddylanw- wad pechod, yn rhwystr i garu a gwas- anaethu Duw ; ac yn neillduol fel y mae yn gwrthwynebu Crist a gwir grefydd. Yn yr ystyr yma y dywedodd Crist, " Myfi a orchfygais y byd." Y mae y byd dynol yn ddau ddosbarth, sef y dyn anianol a'r dyn ysbrydol. " Y dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw; canys ftblineb ydynt ganddo ef; ac nis gall eu gwybod, oble- gyd yn ysbrydol y bernir hwynt." Y mae yn debyg i'r anifail yn byw i'r corft', ac nid i'w enaid; ei feddwl a'i holl synwyrau wedi eu darostwng yn gwbl at bethau daearol. Yn y byd hwu