Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. xlviii.] GORPHENAF, 1885. [Rhif. 583. ARWEINIOL. DEFFROAD NERTHOL. Peegeth gan t Pabch. T. DeWitt Talmage, D. D,, ra i Tabebnacl, Bbooeltn. CTFIEITHWTD GAN T PABCH. DAYID PUGH, CAMBEIA, WIS. " Wele fi yn anfon fy nghenad, ac efe a arloesa y ffordd o'm blaen i: ac yn ddisymwth y daw yr Abglwtdd, yr hwn yr ydych yn ei geisio, i'w deml."—Mal. 3:1. Weithiau y mae mater y bregeth yn cael ei awgrymn i'r pregethwr gan ei deithi neill- duol ei hunan, weithiau gan ddygwyddiad- au yr wythnos flaenorol, bryd arall gan ym- ofyniadau un o'r gwrandawyr. Nid yw fy mater i y boreu hwn wedi dyfod felly, ond yn uniongyrchol o orsedd Duw i'm calon. Ehoddwch i mi eich gweddiau a'ch gwran- dawiad dwysaf. Mi a ddangosaf i chwi, os yr Aeglwtdd a'm cynorthwya, mai angen penaf yr eglwys a'r byd yn y presenol ydyw deffroad ysbrydol nerthol. Gall ych yn ymborthi yn y borfa dybied fod yr holl fyd yn faes o feillion; ac felly y gallwn ninau, wrth sefyll yn nghanol man- teision crefyddol, dybied fod yr holl fyd wedi ei efengyleiddio; ond pe bae yr esgyn- lawr hwn yn cynrychioli y byd, cymaint ag a orchuddia fy nhroed de o hono, a arddeng- ys faint o'r byd sydd wedi ei efengyleiddio; neu pe bae yr holl adeilad hwn yn cynrych- ioli y byd, un eisteddle yn unig a arddeng- ys yr hyn sydd wedi ei efengyleiddio o hono. Pan yr ydwyf mor sicr a bod Duw yn bod- oli, fod yr holl fyd hefyd i gael ei achub— canys fel y dechreuodd y byd gyda gardd, y mae hefyd i ddybenu mewn gardd—yr yd- wyf yr un mor sicr hefyd o'r ffaith, fod yn rhaid cael cyfnewidiad diwygiadol, ac y rhaid i eglwys Dduw gymeryd cyfeiriad gwahanol. Yn y modd a'r dull presenol, y mae yn an- mhosibl i hyn gymeryd lle. Dangosaf i chwi y boreu hwn, trwy gymorth Duw, nad oes dim a gynyrcha y cyfnewidiad hwn, ond de- ffroad nerthol a chyffredinol. Y mae y benod gyntaf yn hanes yr eglwys Gristionogol yn dechreu gydag adfywiad, yn mha un yr ymunodd tair mil o bobl â'r eg- lwys mewn un dydd. Nid oedd dydd y Pentecost ond dydd o ddiwygiad, ac felly y bydd y benod olaf yn hanes y byd, yn hanes diwygiad. Nid deng mil o bobl wedi eu dy- chwelyd, na miliwn chwaith, ond cenedl o ddychweledigion wedi eu geni mewn un dydd. Nid yw y milflwyddiant ond enw ar- all ar adfywiad. Felly y bu yn oesoedd diweddaf yr eglwys; daeth deffroad nerthol gyda phregethiad Eobert M. Cheyne, ac ys- gydwyd Scotland; ac o dan bregethiad Eich- ard Baxter yn Eidderminster, ysgydwyd Lloegr; a phan groeswyd y cefnfor gan George Whitefield, ysgydwyd America. Y mae rhai o honoch yn cofio 1831; yr oedd yn wasgfa fasnachol gyfyng; cauwyd y masnachdai, dyryswyd y banciau, ac yr oedd yr holl wlad mewn teimlad difrifol; a daeth dau ddyn at ddrws Chwareudy Chatham Street (un o chwareudai mwyBf llygredig y