Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1 CEEDDOE. [Gorphenaf laf, Ì89Ô. EIN CERDDORION (RHIF 40.) Mr. D. W. LEWIS, F.T.S.C., Brynamman. YMAE Mr. Lewis yn bersonol neu wrth ei enw yn bur adnabyddus i gerddorion Cymru, a diau y bydd yn dda ganddynt gael ei ddarlun. Brodor o Frynamman, Sir Gaerfyrddin ydyw, ac yn y flwyddyn 1845 y gwelodd oleu dydd gyntaf, rhyw bedair blynedd o'n blaen— efe ar ochr Dde i'r Mynydd Du, a niiiau ar ochr y Gogledd. Yn Abertawe y cyfarfuom gyntaf, naill ai yn nbŷ y diweddar Mr. Silas E? ans, neu yn nhŷ cyfaill iddo. Credwn ei fod dysgu Sol-ffa, oedd piinder athrawon a llyfrau Cymiaeg. Hyd nes i'r Llawlyfr gan Mr. Eleazar Roberts dd'od allan, yr oedd yr holl lyfrau ar y gyfundrefn yn Saesneg, a dyna yr anhawsdra mwyaf i lawer heblaw Mr. Lewis yn y oyf- nod hwnw. Dichon er hyn, nad oedd yn golled i gyd, o herwydd yr oedd yn gorfodi dynion ieuaingc i ddysgu yr iaith Saesneg. Cofus genym mai un o'r pethau cyntaf wnaethom pan yn dechreu astudio cerddoriaeth oedd prynu Geiriadur Saesneg a Chymraeg, a lled debyg oedd hi gyda mwyafrif Sol-ffawyr Cymru y dyddiau hyny. Yn 1870 aeth Mr. Lewis i Fryste i gael ei arholi gan Mr. Alfred Stone (cerddor a fu yn beirniadu llawer yn Neheudir Cymru yn ystod ei yrfa gerddorol fér.) Ac er'« rhai blynyddau bellach y mae wedi graddio yn Fellow of the Tonic Sol-fa College, ac ef oedd y cyntaf yn Nghymru i ymgeisio am y dystysgrif hon. Enillodd hefyd dyst- weii enill Tystysgrif Ganolraddol (Iniermediate) Coleg y Sol-ffa y pryd hyny, neu yn myn'd dan arholiad. Yn yr Ysgol Sibbothol y cafodd y cyfleusdra cyntaf i gael ych- ydig addysg, am ei fod wedi gorfod gweithio yn y pwll glo er yn ieuangc. Bu yn yr ysgol ddyddiol am ychydig am- ser, dan ofal hen filwr o'r enw Richd. "Williaros, ac ar ol hyny gydag un Mr. Prosser, yn Brynamman. Yno y gwelodd y Modulator am y tro cyntaf; ond ychydig ddysg- odd o gerddoriaeth yr adeg hono. Yr oedd y ffaith iddo orfod myn'd i'r gwaith pan yn naw mlwydd oed, yn rhoddi terfyn ar ei addysg ddyddiol. Ceisiodd ddeall ychydig amy " gelf o ganu " trwy ddar- llen Gramadeg Cerddorol Mills, a chafodd gynorthwy hen gerddor ffyddlon o'r enw Watkin Morgan, a galluogwyd ef i ddarllen tôn gynulleidfaol rwydd yn yr Hen Nodiant. Yr anhawBdra deimlai llawer yr adeg byny yn nglŷn à ysgrif mewn cyfansoddiant yn yr un coleg, pan oedd Syr George Macfarren yn arholi. Y mae Sir Gaerfyrddin a rhanau o Morganwg yn ddyl- edus iddo am luaws o ddosbarthiadau cerddorol yn nglŷu â'r gyfundrefn. Nid ydyw yn feistr caled, ond yn hytrach tynerwch a mwynder sydd yn ei nodweddu fel athraw, arweinydd, a chyfansoddwr. Y mae wedi teithio llawer ar hyd a lled y wlad fel arweinydd pob math o gymanfaoedd canu. Fel cyfansoddwr, ei ymdrech yn benaf ydyw bod yn syml a rhwydd; ac y mae lluaws o'i ddarnau i blant ac i gôrau bychain wedi bod o wasanaeth mawr. Y mae yna lawer o ganu wedi bod ar Odlau Mawl a rhai o'i an- themau. Ysgrifenodd gyfres o wersi i'r Tywy$ydd, ac aml i erthygl ar y Llais ac ar Gerddoriaeth Offerynol yn Nghymru. Erbyn hyn mae Llawlyfr y Llais wedi ei gy- hoeddi, ac y mae y rhan fwyaf o'n darllenwyr yn gyf-