Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XXV.] IONAWR, 1864. [Cyt. III. BETH AM Y PLANT? fUD yw achos y plant wedi cael yr ystyriaeth a ddylai gan Gristionogion Cymru. Er holl lafur yr Ysgol SabbothoL er sefydliadau y Band qf Hope, a societies y plant, ac amryw fân gyfarfodydd eraiÉ, yr ydym yn ddibetrus yn credu mai esgeuluso y plant yw prif achos aflwyddiant crefydd yn ein mysg. Os oes can' mil o aelodau yn perthyn i'n Cyfundeb, y mae nefyd, yn ddiau, dros gan' mil o blant dan bymtheg oed, yn ein heglwysi, wedi eu derbyn trwy fedydd i gyfammod eglwysig. Cyn pen deng mlynedd, bydd hanner y rhai hyn, neu ycnwaneg, wedi tyfu i fyny, ac wedi rhoddi eu gyddfau dan iau yr Arglwydd Iesu, neu wedi troi ymaith a gwerthu eu genedigaeth-fraint. Gyda'r gofal a'r addysg dyladwy,-^-a bendith yr Arglwydd, yr hon sydd yn wastad yn canlyn hyny,—cedwid mwyafrif mawr y plant heb roddi eu troed byth allan dros drothwy yr eglwys. Chwyddai y rhai hyn nifer ein heglwysi yn fuan, a hyny o'r dos- barth mwyaf gwasanaethgar a gobeithiol. A phe na cheid dy- chweledigion at grefydd o fysg dynion mewn oed, byddai y llwyddiant uwchlaw dim a welwyd erioed. Ac onid y llwybr hwn yw prif lwybr y Nefoedd i boblogi y deyrnas "nad yw p'r byd hwn." " Y plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd; ei wobr ef yw ffrwyth y groth." Rhagddywedai yr Iesu mai o'r ffyn-