Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. VI.] MEHEFIN, 1862. [Cyf. I. GWEDDIO. /jwOBEITHIW'N fod miloedd ein daillenwyr ieuamc yn arfer (&j gweddio. Os ydynt, gwyddant yn dda am yr anhawsdra i <î> gychwyn liyn o orchwyl ar yr aelwyd gartref, yn y cyfarfod eglwysig, yr Ysgol SuL.neu y cyfarfod gweddi. Dywed un nad oes dim â mwy o anglien am dano, na dim mor anliawdd ei wneyd, a rhoddi cyfarwydcliadau sut i weddio. Ni fjmem rwyino, hyd yn nôd y plant, wrth unrhyw ffurf o weddi, os gallant wneyd hebddi; ond gwell fyddai iddynt gymeiyTd at ffurf briodol, na syrthio i afael peth fyddo gwaeth. Nid ydym am gj'feirio dim yma at rai mewn oed, ag ydynt yn gyfarwydd â'r gwaith pwysig, goruchel, a bendigedig hwn, ond y mae ar ein calon roddi rhai gocheliadau i'r plant a'r rhai ieuainc wrth ymgymeryd â'r gor- chwyl. 1. Gochelwch ddefnyddio hen fraiuddegau ystrydébol ac anneallus. Mae lliaws o'r rhai Iryn i'w cael yn y Dê a'r Gogledd, yn Nghymru a Lloegr, megys, "ein tori i lawr, a gosod ein rhan gyda'r anffydd- loniaid, yn y wlad anobeithiol, Úe nad oes trugaredd yn tramwy trwyddi." " Yr ydym yn dymuno ger dy fron," &c. Os byddwch am ddefnyddio ffurf o gwbl, gwell i chwi ei chymeryd oddiar lyfr na defhyddio hen ffurnau mor anmhérffaith wedi eu dysgu gan eich cymydogion. Ond gwell na'r ddau yw i chwi lefaru eich teimlad yn eich geiriau eich hunain.