Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORFA Y PLANT. 57 Y PARCH. JOHN WILLIAMS, Ll^ERPOOL. lAE y Parch. John Williams, Prince's Road, Liver- pool, wedi dyfod yn un o bregethwyr mwyaf dawn- us a phoblogaidd Cymru. Ganwyd ef yn Cae'r Gors, Llandyfrydog, Môn. Dygwyd ef i fyny ar aelwyd grefyddol, yn nglyn a Chapel y Parc, Môn, lle yr oedd ei dad yn flaenor oddiar y flwyddyn 1859. Yr oedd yn gallu darllen yn dda yn bedair oed, wedi ei ddysgu gan ei fodryb, chwaer ei fam. Y tro cyntaf aeth i'r Ysgol Sul, yn mraich ei dad, aeth a'r Testament yn ei law, a dodwyd ef yn nosbarth J. Williams, Nantygôf. Gwnaeth yr athraw iddo ddarllen adnod. Wedi iddo wneyd, dywedodd wrth fechgyn y dosbarth " Mae yr hogyn bach yma, hogia, yn gallu darllen fel person." Yn nosbarth hwn y bu nes oedd yn Mawrth, 1901.