Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ithif. 14. Dan Olygiaeth BERIAH GWYNFE EVANS. CYNWYSIAD Cyf. I.—Sadwrx, Ionàwr 15, 1881. "Blwyddyn Newydd Dda"......................................... 185 Gwladys Ruffydd, gan y Golygydd.............................. 183 Y Darn Barddoniaeth hynaf mewn hanes gan y Parch J. E. Davie9, M.A., (Rhuddwawr), Llanelli................... 185 " Gwendolen," ueu Ystranc y March Gwyn, gan Mrs. R. T. Jones, Rock Ferry............................................. 185 Llen y Werin—Chwedloneg y Llong Foel, gan Dewi GlanTwrch................................................... 188 plant Helen, gan eu Hysglyfaeth Ddiweddaf............. 188 Yr Adran Gerddorol, gan Alaw Ddu,— Ein Bwrdd Cerddorol........................................... 191 Y Wasg Gerddorol........................................ 191 Eisteddfod Genedlaethol Merthyr.......................... 191 CYTRINACH T BEIRDD— Dydd Calan gan Glan Cunllo, gan Nenio, (parhad)... 192 CONGL YR ADRODDWR— Marwolaeth yr Hen Flwyddyn, cyf. gan G wilym Glan Afan..................................................................... 19S Difyrwch yr Aelwyd................................................... 198 Cystadleuaeth Rhif. 11............................................... 194 FyNghariad............................................................. 194 Nodwydd Cleopatra .................................................. 194 Y Nodiadur .............................................................. 195 Y Plentyn o Dre', gan Seth P. Jones ........................ 195 Gwobrau Cyfaill tr Aelwyd................................... 195 Atein Gohebwyr........................................................ 196 l^" Danfoner archebion, gobebiaethau, F.O. orders, Fostal orders, arian, &c, wedi eu cyfeirio, D. Williams & Sok, Publishers, Llanelly. "BLWYDDYN NEWYDD DDA." Blwyddyn newydd llawn o fri, A foed i'n "Cyfaill Aelwyd" gu, Ac enill idd y cylch yn llu, Gyfeillion ílon a difyr : Boed íieulwen ffawd yn gwenu'n llon, Nes curo'r galon tan ein bron Mewn diolcligarwch, ton ar dòn 0 foroedd llwyddiant ylch ei fron ; " Ercelsior " yn ei awyr. Mae'r cylch yn eang, bylchau sydd Yn aros er eu llanw ; bydd Derbyniad i blant Gwalia rydd, Ö hyd o fewn yr Aelwỳd. Yn mlaen ! yn mlaen ! yw swn ein cân Nes cyrhaedd bryn enwogrwydd ; tân Calonau Cymru gwlad y gàn Gynesa'r Aelwyd hapus lân, I'n cadw rhag cael anwyd, Trwy feddwl gwag a diffyg dysg, Dewch, llamwch bellach, idd ein niysg. Board So/tool. Ynysddu. Gsykfa.b. GWLADYS RUFFYDD: ystori hanesyddol am sefydliad cyntaf cristionogaeth yn mhrydain. Gan y Golygydd. Penod IX. Yn Rhydd o'r Diwedd. ID rhyfedd, pau ystyrir pob peth, oedd fod y carcharor wrth yr ystanc wedi ei lwyr anghofio gan y ddynes ddewr oedd wedi peryglu cymaint er mwyn ei achub. Yr oedd y dygwyddiadau cynhyrfus oeddent wedi cymeryd lle oddiar pan drodd ei hymgais i'w ryddhau yn fethiant, wedi gwneyd iddi anghofio, dros enyd, fodolaeth y carcharor yn llwyr. Yr oedd Junius a'i filwyr hefyd, hyd y nod pe teimlent ddigon o dosturi dros y truan an- ffodus i ddymnno ei ryddhau o'i berygl. wedi cael eu Uyncu i fyny mor llw}Tr gan yr ymdrech- feydd oedd newydd gymeryd lle, fel nad oedd- ent wedi ystyried dim am y carcharor oeddent wedi adaeí yn rh^yym wrth yr ystanc. Am Sallust a'i wỳr, yr oeddent hwy wedi meddwl cymaint am Pudens, ac am Pudens yn unig,fel nadoeddent yneurhuthr fuddugoliaethus wedi sylwi ar ddim ond y perygl yr oedd eu cyfaill ynddo. Felly, yr oedd y carcharor wedi ei anghofio gan bawb, ac ychydig iawn oedd o obaith y ceid ef yn awr yn fyw. Trodd pawb eu golygon yn nghyfeiriad yr ystanc, ac yno gwelent y fflamiau yn dechreu ymgodi yn ffyrnig. Rhedodd y ddynes, yn cael ei chanlyn gan Pudens, Sallust, a rhai o'r milwyr tua'r fan. Hyrddiwyd y ffagodau cyneuedig ymaith, a rhyddhaẁyd ỳ carcharor druan. Ond nid cynr y datodwyd y rhwymau oeddent yn dal y dyn poenedig, nag y syrthiodd fel corff marw. a buasai wedi llithro i'r ddacar, oni bae i freicli iau cedyrn Sallust ei dderbvn. "Oh, Rhi trugarog!'' llefai y ddynes, "\ mae wedi marw." Yn wir ymddangosai felly. Nid oedd aelc ù yn cyffro na gewyn yn crynu. Yr oedd y llygaid a'r genau yn nghau. Yr oedd y gwynebpryd