Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWLADGARWR ' CAS GWR NA CHARO ' Y WLAD A'I MACO." Rhifyn 8. AWST, 1843. PRIS 2 GEINIOO FFURFIAU Y GWAHANOL EGLWYSI CRISTIONOGOL. Fel y nodwyd yn y Rhifyn o'r blaen, er fod y ffurfiau yn y rhai y proffesir Cristionogaeth yn dra lluosog, eto gellir eu cynwys mewn tair o brif gyfundraethau—yr Eglwys Babaidd, yr Eglwysi Dwyreiniol, a'r Eglwysi Protestan- aidd neu Ddiwygiedig. YB EGLWYS BABAIDD. Y mae athrawiaethau a defodau y corph hwn» fel y proíFesir hwynt yn awr, yn gorphwys mewn mesur helaeth ar benderfyniadau CynghorTrent (a orphenwyd 1563). Yn ol y penderfyn- iadau hyn, y mae y credo Rhufeinig yn cy- nwys y pyngciau canlynol:—Addefiad tra ddodiadau apostolaidd ac eglwysig ; nad yw yr Ysgrythyrau Santaidd yn ífurfio ond rhan o ddatguddiad, a nad ydynt i'w deongli ond yn ol yr ystyr yn yr hwn y deallir hwynt gan yr Eglwys ; bod saith o sacramentau yn angen- rheidiol er iachawdwriaeth dynolryw, er nad i bob un—bedydd, crysfad (confirmation), cy- mun, penyd, anghenad (e.rtreme unction), urddau offeiriadol, a phriodas; bod aberth gwirioneddol, priodol, ac iawnol, yn cael ei ofFrymu dros y byw a'r marw yn yr offeren (mass); bod corph a gwaed Crist yn wirion- eddol a sylweddol yn y cymun santaidd, yn nghyda'i enaida'i dduwdod (trawssylweddiad) ; bod Ue o bureiddiad, neu burdan, Ue y mae en- eidiau yn myned ar ol marwolaeth ; bod y seintìau, gan gyd-deyrnasu â Christ, i gael eu hanrhydeddu, a'n bod i alw arnynt; eu bod yn offrymu gweddiau at Dduw ar ein rhan, a bod eu gweddillion i'w cadw mewn parch ; y dyl- id cael a chadw lluniau Crist, y Forwyn Fair, a'r seintiau ereill hefyd, ac y dylai parch ac an- rhydedd dyladwy gael eu rhoddi iddynt; i'r gallu o ymollyngiadau gael ei adael gan Grist i'r Eglwys, a bod y defnyddiad o honynt yn dra llesol i'r bobl Gristionogol; mai yr Eglwys Lân Gatholig Apostolaidd yw mam pob eglwys, a nas gall neb gael eu hachub tu allan i'r ffydd Gatholig. At y prif faterion credoawl hyn y chwanegir—effeitbiolrwydd gweddiau dros y raeirw; dirgel-gyffesiad; gweddwdod yr off- eiriadon; yr arferiad o'r Lladin yn y gwein- yddiadau cyhoeddus; gwneyd arwydd y groes; y pader-restr (rosary) fel offeryn addoliad, &c. Y mae yr Eglwys Babaidd dan lywodraeth esgobawl. Y prif reolaeth a orphwys ar y pab, a'i gynghor yn Rhufain, ac oddiyno y tardd cyfundraeth o reoleiddiad, o'r fath fwyaf per- ffaith ac effeithiol, dros bob rhan o'r byd crist- ionogol. Y mae yr eglwys yn cynwys tair urdd wahanol o offeiriaid—esgobion, ofíeir- iaid, a diaconiaid; yr hollrai ereill, megys car- dinaliaid (pabau dysgwyliol), archesgobion, deonau, tìceriaid, &c, a berthynant i'r naill neu llall o'r rhestrau hyn, Yr eglwys a hòna y nôd 0 wir apostoliaeth, hyny yw, llinell ddidor o ddisgyniad oddi wrth yr Apostolion a' u Meistr dwyfol. Ordeiniad offeiriadon yw eu himpiad i'r ìinell apostolaidd hon o olyniant. Esgob- ion yn unig sydd yn ordeinio neu yn cyfranu urddau santaidd. Nid yw defodau addoliad cyhoeddus,mewn un eglwys, wedi eu haddurno gymaint, na wedi eu gwneyd yn fwy harddwych, trwy wisgoedd yr offeiriaid gweinidogaethol, chwyfiad tuserau, darluniau, delwau, a cherdd- oriaeth. Er yn cael ei weini mewn iaith ddy- eithr, y mae yn nodadwy fod yr addoliad cy- hoeddus yn cynhyrfu yr ymddangosiad mwyaf o sylw a gweddeidd-dra, cyn gystal a'r amlyg- iadau allanol o ddyhewyd. Dywedir mai cael dylanwad ar y teimlad dyhewydus yw y dyben ag y cyfeirir ato trwy yr amrywiol ddangos- iadau ; trwy fod yr eglwys yn dal (os ydym yn deall y rhesymiad) ei bod yr un peth pa un bynag a gaffb y galon ei chyffwrdd, a theimladau o ddyhewyd a pharch eu cynhyrfu, trwy ddangosiad y darluniad o farwolaeth Crist, neu trwy bregethiad. Er nad yw ond rhan o'r un gyntefig, hi yw y luosocaf o'r gwahanol bleidiau Cristionogol: y mae yn cynwys o fewn ei rhaglawiaeth, Ffraingc, Belgiura, Poland, Itali, ynysoedd Môr-y-canoldir, Spaen, Portugal, y rhan fwy- af o bobl Awstria a'r Iwerddon ; oddeutu haner y Prwssiaid, a'r Swissiaid, a thrigolion gwahanol dalaethau Allmanaidd; nifer lluosog yn nhalaethau America Ddeheuol a Mexico; hefyd rhan o drigolion yr Unol Daleithiau, a bron yr oll o'r Canadiaid Isaf; a nifer mawr o drigoiion Lloegr a'r Alban, heblaw eiddo 1 gwledydd llai enwog. Yn y cwbl dywedw