Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GENÂD HEDD " A Gwaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhip 318.] MEHEPIN, 1907. [Cyf XXVII. SIBRWD GWAITH PLENTYN. jYFAL ydyw dyn bach. Uonder plentyn ydyw lluddedu ei hun. Y mae yn boenus o weithgar, hyd nes y daw yn alluog i fod yn fuddiol. Anhawsder c}mtaf ei rieni ydyw çael ganddo fod yn esmwyth ; a'u hail ydyw ei gael i fod yn wasanaethgar a diwyd. Genir plentyn i ddyfalwch, ond efe a dyf i ddiogi os na atelir ef. Pan y mae o olwg ei fam, hi a eilw arno byth a beunydd. i ofyn iddo pa le y mae, a pha beth a wna. Gŵyr hi fod ganddo rywbeth mewn llaw. Rhywbeth ydyw, a rhywfodd y cyflawna ef ; ond nis gall fod yn segur. Y mae yn morthwylio, yn cloddio yn y pwll dwfr, yn chwipio y ci ac eillio y gath, yn ymlid yr iar a chloíri ei chywion, ac yn pardduo ei wisg a'i wyneb i ddyeithrwch poenus i'w fam ; neu, yn darllen dail y llyfr yn ddarnau mân, yn eillio y gwallt â gwellaif, yn rhwbio y llawr a'r dodrefn bob yn ail â'r un cadechyn, yn golchi y llestri yn deilchion, yn casglu a gwasgaru, gwnîo a datod, canu ac wylo, canmol a difrîo—hyd nes y gesyd cwsg y natur fach mewn llon- yddwch, a meddwl a mynwes y fam mewn byd didwrw hyd dranoeth. Ac wedi i'r plentyn dreulio ei nerth trwy ei ddiwydrwydd ar hyd y dydd, ymddengys yr oll yn ddifyrwch ofer. I'r olwg ar- wynebol, nid oes i'w ymdrechion bach fudd nac ystyr. I anwyldeb, y maent yn destyn siarad, a difyrwch, a chŵyn—dyna'r oll. Eto, nid hyn ydyw y cwbl. Y mae i waith diles, difyr, diamcan plentyn iaith ac ymadrodd i'r rhai feddant feddwl a chalon i'w deall a'u dehongli. Gwasanaetha ei holl symudiadau i'w ddadblygu a'i ddatguddio. Y mae pob ystum ac osgo o'i eiddo yn " Uais ddystaw fain" yn hysbysu y dirgelwch sydd ynddo. Y mae ei ymddygiadau a'i ymarferion oll yn dangos y defnydd sydd ynddo, pa un ai cryf ai gwan, gwrol ynte ofnus, caredig ynte angharedig,