Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

6ENÄD FÎElIf)If). " A Gwaìth Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. RhiF 302.] CHWEFROR, 1906. [Cyf. XXVI. EIN GWEINIDOGION A FÜONT FEIRW YN 1905. Y PARCH. D. B. HUGHES, NEW INN, MYNWY. |AB ydoedd efe i'r Parch. J. Hughes, a adnabyddid unwaith fel " Hughes, Llangadog," ond a fu yn gweinidogaethu hefyd yn y Foel, Hanley, yr Aber, Tredegar, a Phen-north. Yn y Foel y ganwyd David yn 1857. Dygwyd efi fyny yn draper, a bu yn dìlyn yr alwedigaeth hono am fiynyddoedd. Hyny a'i cymerodd i Maesteg ; a phan yno y dechreuodd bregethu. Cafodd ei addysg ragbarotoawl dan ofal y Parch. D. E. Williams, yn awr o Newbridge, sir Fynwy ; ac ar ol cwrs yn Ngholeg y Bala, ordein- iwyd ef yn Connah's Quay a Northop, yn y flwyddyn 1883. Treul- iodd yno saith mlynedd ; ac ar ol hyny, symudodd i New Inn, yn ymyl Pontypool, lle yr arosodd mewn parch mawr hyd y diwedd. Nid oedd ond un o bedwar o blant y Parch. J. Hughes a aethant i'r weinidogaeth. Bu farw Rhagfyr 28ain, 1904, a chladdwyd ef Ionawr 2Ü, 1905, yn nghanol galar mawr. Dyn da ydoedd, a bu ei lafur yn dderb}miol iawn yn y ddau le. Nid ymgeisiai at bethau mawrion ; ond yr hyn a wnai, fe'i cyflawnai i foddlonrwydd pawb. Y PARCH. MORGAN RICHARDS, PAINSCASTI^E, MAESYFED. Bèr iawn fu ei oes weinidogaethol ef—dim ond tua dwy flynedd a haner. Brodor o Gwmaman, sir Gaerfyrddin, ydoedd, lle y dech- reuodd bregethu yn eglwys y Parch. J. Towyn Jones yn 1895. Aeth i Ysgol y Gwynfryn i dderbyn ei addysg ragbarotoawl, ac oddiyno i Goleg Aberhonddu yn 1898. Profodd yn efrydydd da yno ; ac yn