Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD. "A Gwaith Cyfiawnder fydd Heddwch —Esaiah. Rhif. 132.] RHAGFYR, 1891. [Cyf. XI. "A FU GOLLEDIG." (Luo xv. 32.) ; AMEG yr afradlon yw yr arddercbocaf 0 ddamegion y Gwaredwr —coron yr oll ohonynt—yn aughymharol 0 ran prydferthwch a thynerwch. Darlunir ynddi ynfydrwydd a thrueni pechadnr yn ymadael â Duw, a thosturi a gras Duw yn ei dderbyn ef yn ol. Dyn yn barod i bechu, a Duw yn barod i faddeu iddo ar ei edifeirwch. Ffurf deuluol sydd i'r ddameg—tad a dau fab. Y tad yn ddarlun 0 Dduw, a'r ddau fab yn ddarlun 0 ddau ddosbarth 0 wrandawyr oeddynt yn gwrandaw ar y Gwaredwr ar y pryd. Y mab ieuengaf yn ddarlun o'r publicanod a'r pechaduriaid, a'r mab hynaf yn ddarlun o'r ysgrifen- yddion a'r Phariseaid. Cyfeiriai Crist yn agos at ei wrandawyr yn ei bregethau a'i ddamegion; ac ni ddylem ninau ofni cyfeirio yn eglur at bechodau ein gwrandawyr, am mai felly y gwnai ein Meistr Mawr yn ei weinidogaeth. Byddai yn dda i ni allu rhoddi ein llaw yn drom ar bechodau parod y rhai a wrandawant arnom. Y mae jr un ddameg hon yn ddarlun 0 filoedd 0 wrandawyr yr Efengyl. 1. Plantrhieni crefyddol ydyw llawer ohonynt. Rhai wedi eu magu yn swn gweddiau, cynghor- ion, ceryddon, ac esiamplau eu rhieni, ond a ddiystyrwyd ganddynt, ac j mae Hawer ohonynt wedi eu colli mewn bywyd afradlon. 2. Ereill ohonynt ydynt ddeiliaid cyson yr Ysgol Saboathol. Rhai wedi, ac yn cael eu magu yn nrws Eglwys Dduw, ond ni ddaethant i fewn fel y dysgwylid hwynt, ac y maent ar goll yn afradloniaid. 3. Ereill ydynt aelodau eglwysig wedi gwrthgilio. Y rhai hyn ydynt ar goll yn nhir gwaradwyddus a pheryglus gwrthgiliad. Ye afeadloîí ab goll. "A fu golledig." Aeth ymaith yn wirfoddol.—Efe ei hun yn unig a ddewisodd ymadael. Ni feddyliodd neb o'r teulu am iddo adael ei gartref, heb son am ei droi ymaith o'i gartref. Yn meddwl y dyn ei hun y mae gwrth- giliad oddiwrth Ddnw yn dechreu, ac hefyd ymadawiad â'i dŷ. Nid yw Duw erioed wedi meddwl am droi dyn ymaith oddiwrtho : " Eithr 0 thyn neb yn ol, nid yw fy enaid yn ymfoddloni ynddo." Nid oes neb 23