Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD. "A Gwaith Gyfiawnder fydd KvDi)WCE.."—Esaiah. Rhif. 108.] RHAGFYR, 1889. [Cyf. IX. PAUL YN YR YSTORM. " Safodd yn Jy ymyl y nos hon angel Dmo, yr hwn a'm pìau, a?r Rwn yr wyf yn ei addoli, gan ddywedyd, Nac ofna, Paul."—Aot. xxvii. 23, 24. JALL Cristion yn aml beri gobaith pan fetha dynion ereill. Dibrisir ef gan ei gyd-bechaduriaid ; efallai y drygir ef yn ddirfawr; ond pan ddaw gofid, gwelant ei werth, ac mai efe yw eu cysurwr goreu, ac weithiau eu hunig gyfaill. Yr oedd Paul yn nwylaw gelynion. Dygent ef yn garcharor i Rufain. Ar eu ffordd yno cyfarfu ystorm â hwy—un mor erwin nes y diflanodd pob gobaith am ddyogelwch. Ac yna daeth yn amser i'r Arglwydd Iesu G-rist osod anrhydedd ar ei was erlidiedig, a dwyn gogon- iant iddo ei Hun. Enfyn angel o'r nef i lawr ato i beri iddo beidio a phryderu am ei ddyogelwch. Dywed wrtho yn mhellach y cedwid, er ei fwyn ef, bob bywyd yn y llestr. Yna daw yr apostol at ei gyd-deithwyr torcalonus, a mynega iddynt y newydd llawen iawn a dderbyniasai. Pwy fedr ddirnad yr effaith ardderchog gafodd adroddiad o'r waredig- aeth wyrthiol hon er mwyn Paul yn yr eglwysi yn oes yr apostolion ? I. Beth ddywed Paul am dano ei hun. Ychydig a ddywed, ond cynwysa hyny lawer iawn. Mae yr ychydig hyny yn llawn 0 ostyngeiddrwydd, yn gweddu y Cristion goreu, ac eto mor anrhydeddus fel na fedrai angel chwenychu dim uwch. Beth ydy w ? Dyma ydyw : iaith yn cyfeirio at Orsedd y Sanctaidd, a dy- wedyd, " Yr Hwn a'm piau, a'r Hwn yr wyf yn ei addoli." Duw biau bob creadur a wnaeth, ond eiddo neillduol Duw yw enaid y Cristion—eiddo trwy ras Duw : " Drwy ras ydwyf yr hyn ydwyf." Bu amser pan oedd yn was pechod, ac yn eiddo Satan; " yn gablwr ac yn erlidiwr ; " ddim yn fwy o eiddo Duw na'r eneidiau a gollwyd. Yr oedd gogoniant y Gwaredwr yn gofyn am ei ddinystrio, a'r Eglwys yn dysgwyl hyny. Ond yr oedd wedi ei hen ethol i roi i drugaredd fuddug- oliaeth mwy gogoneddus nag a fedrai dialedd gael drwyddo. Yn nghyf- amod tragywyddol gras rhoddasid y Saul hwn i Fab Duw fel un oedd 23