Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD. "A Owaith Gyfìawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 104.] AWST, 1889. [Cyf. IX. CAEL ALLAN ANWIREDD. " Gafodd Duw allan anwiredd dy weision."—G-en. xliv. 16. jELE frodyr Joseph yn ei gydnabod yn " feistr" neu " ar- glwydd " arnynt o'r diwedd. Yr oedd llawer blwyddyn wedi myned heibio oddiar y breuddwydiasai weled ysgubau ýd ei frodyr yn ymgrymu i'w ysgub ef, a'r haul, a'r lleuad, a'r un seren ar ddeg yn ymgrymu iddo ef, am yr hyn y tramgwyddodd ei frodyr yn anfaddeuol wrtho, ac y beiodd ei dad arno, er mor hoíf oedd ohono, er mai peth hynod yw beio ar neb am freuddwydio, gan mai peth a wneir heb geisio ydyw. Pe elem i ymdrechu breuddwydio, ni freuddwydiem byth. Ac eto, mae yn ymddangos mai unig fai Joseph yn ngolwg ei dad oedd iddo freuddwydio ; a dyma yr hyn hefyd, yn ngbyda'r " siaced fraith," barodd i'w frodyr benderfynu gwneyd i ffwrdd âg ef mewn rhyw ffordd neu gilydd. Mae yn bosibl fod Joseph wedi anghofio ei freuddwydion i fesur helaeth cyn iddynt gael eu cyflawni. 0 leiaf, galwodd ei gyntaf-anedig yn Manasseh, sef " anghofio," gan ddywedyd, " Duw a wnaeth i mi anghofìo fy llafur oll, a thylwyth fy nhad oll." Mae yn bosibl fod ei frodyr wedi anghofio ei freuddwydion erbyn hyn hefyd, ac yr oedd hyny yn gwneyd eu hymostyngiad yma yn fwy naturiol a tharawiadol i Joseph, ond odid, er nad oeddynt eto wedi ei adnabod. Yr oedd Joseph wedi gweled llawer yn ymostwng iddo cyn hyn. Yr oedd rhywbeth ynddo yn naturiol i deyrnasu. Pan aeth i dŷ Putiphar, aeth yn ben yno mewn byr amser. Pan aeth i'r carchar, aeth yn ben yno rhag blaen. Pan aeth i lys Pharaoh, efe oedd ben yno drachefn. Mae yn dreth ar natur i ymostwng i ambell un, er ei fod wedi ei ddyrchafu i awdurdod, oherwydd rhywheth yn y dyn ei hun, nen ryw ymwybyddiaeth ei fcd wedi ei godi i sifie nadyw yn gymhwys iddi. Ond yr oedd Joseph yn ddyn glan, pwyllog, penderfynol, a delw llywodraethwr yn ei wyneb, heblaw i'od gwisnoedd llywodraethwr am dano. 15