Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD. "A Oiuaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. ioo.] EBRILL, 1889. [Cyf. IX. TORl Y BLWCH AR BEN YR IESÜ. " A phan oedd Efe yn Bethania, yn nhy Simon y gwahanghcyfus, ac Efe yn eisUdd ifwyta, daeth gwraig a chanddi flwch 0 enaint 0 nard gwlyb gwerthfawr ; a hi a dorodd y blwch, ac a'i tywalltodd ar ei ben Ef."—Mabo xiv. 3. 'AE yn debyg mai at yr un amgylchiad y mae Ioan yn cyfeirio yn pen. xii. 1-9. Os felly, mae yn amlwg mai swper wedi ei wneyd yn bwrpasol i anrhydeddu yr Arglwydd Iesu oedd hwn. Yr oedd y cwmpeini yn hyuod i'r eithaf. Simon', wedi ei wella o'r clefyd mwyaf atgas a marwol ; Lazarus, newydd adgyfodi o'r bedd, a dyfod yn ol 0 fyd arall ; yr Iesu ar fyned i'r ardd, i'r groes, ac i'r bedd ! Os oedd yn arferiad i yf'ed llwnc-destynau mewn gwîeddoedd yr adeg hono, yr oedd yno faterion dyddorol, a siaradwyr heb eu hail. A diau na ddywedwyd yno bethau rhyfedd gan y tri wýr hyn ; ond nid oes dim o'r ymddyddan hyny ar lawr. At beth arall, a ddygwyddodd fel 0 ddamwain ar ganol y swper, y raae y croniclwr yn cyfeirio yn benaf. Pan oedd y wledd yn myned yn mlaen yn hwylus, a phawb yn mwynhau eu hunain ar eu goreu, daeth gwraig yn mlaen yn ddisymwth ac yn ddiseremoni, ac a dorodd fiwch 0 enaint gwerthfawr, ac a'i ty wallt- odd yn grynswth ar ben yr Iesu, nes oedd pawb yn synu neu sori, a'r He wedi ei lanw â pherarogl. Oni buasai am y weithred hon, nid yw yn debygol y buasai gair 0 son am y swper yn y Memrwn Sanctaidd, er íbd y wledd wedi ei gwneyd er anrhydedd i'r Athraw mawr gan ei heu gyfeillion hoff yn Bethania, pan oedd ar y ffordd i'r groes ac i'r nef. Ar hynyma yr ydym uinau yn bwriadu sylwi yn benaf yn y sylw- adau a ganlyn :— I. Haelfrydedd Rhagorol y Wraig. (a) Mae yn rhoi y peth goreu oedd ganddi—" blwch 0 enaint 0 nard gwlyb (pur) gwerthfawr." Mae yn bur debyg nad oedd gauddi ddim yn fwy gwerthfawr yn ei meddiant, neu o'r hyn lleiaf, nad oedd ganddi ddim ag oedd mor