Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD. "A Owaith CyfiawnderfyddHm>wcu."—Esaìah. Rhif. 83.] TACHWEDD, 1887. [Cyf. VII. DY AIR DI YN AWDURDOD. " Beth bynag a ddywedo Efe wrthych, gwnewch."—Ioan ii. 5. " Eto ar dy air Di mi afwriafy rhwyd."—Luo v. 5. jCHYDIGr a wyddom 0 hanes y Forwyn Fair. Mae y Pabyddion yn gwybod Uawer iawn mwy ; ond nid ydyw ein hanwybodaeth o'i hanes, er hyny, yn un sarhad i ni, oherwydd yr ydym yn gwybod cymaint am dani ag y gwelodd yr Efengylwyr yn ddoeth ì'n hysbysu, a phob gwybodaeth arall " o'r drwg y mae." Ond gall y craffus ganfod yn eglur ambell i nodwedd brydferth yn ei chymeriad megys rhwng y llinellau. Nid oes un adnod yn yr holl Ysgrythyrau yn dyweyd ei bod yn fam dda, ac nid oes ei heisieu chwaith, canys gall pawb gymeryd yn ganiataol i Dduw ymddiried ei Uniganedig Fab i'r goreu o famau a fu ar y ddaear erioed ; ond ceir awgrymiad tyner o'i chariad mamol yn hanes genedigaeth y " dyn bach " yn ol Luc. G-ŵyr pawb nad oedd y " Fhysygwr anwyl" yn llygad-dyst o'r hyn ag y mae wedi gofnodi am y Meddyg Mawr. Casglu y dygwyddiadau a wnaeth efe oddiwrth y naill a'r llall oeddent yn bresenol; ac y mae hanes y genedigaeth wedi ei roddi gyda y fath fanylrwydd ag i'n cyfiawnhau i gredu ei fod wedi bod gyda Mair ei hun yn cael y manylion. Pwy arp^l fedrai ddywedyd am y dygwyddiadau bychain a gymerodd le yn llety yr anifail ar y noson hono ? A gallwn ddychymygu ein bod yn ei gwelèd yn nhŷ Ioan, wedi dyweyd yr holl helynt, yn ymsythu ger bron ei hym- holwr, gan ddywedyd, " Ŷn awr, syr, os ydych chwi yn myned i hysbysu y byd fy mod i wedi rhwymo fy Mab bychan cyntafanedig, a'i ddodi yn mhreseb anifail, gofalwch chwi ddyweyd hefyd mai am ' nad oedd le i ni yn y llety ' y gwnaethum i hyny." Mae hi am roddi eglur- had i bawb ar y cwestiwn hwn, drwy ddyweyd mai nid diffyg cariad mamol ar ei rhan hi, ond diffyg lle yn y llety, a'i rhoddodd Ef yn y preseb. Gwna apology i'r byd am ei ddodi yno; ac y mae y testyn eto yn ein haddysgu ei bod yn gwbl argyhoeddedig y dylasai ei Mab Iesu 21